Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Mehefin 2015

Gareth F Williams yn ennill Prif Wobr Llyfr y Flwyddyn 2015

Awst yn Anogia gan Gareth F. Williams yw enillydd prif wobr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2015. Wedi misoedd o ail-ddarllen, pwyso a mesur, daeth y beirniaid Annes Glynn, Hywel Griffiths a Gareth Potter i’r casgliad mai enillydd y categori Ffuglen sy’n haeddiannol o’r teitl Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2015.

Mae Awst yn Anogia, a gyhoeddwyd gan Wasg Gwynedd, yn nofel ysgytwol sydd wedi’i seilio ar erchyllterau’r Ail Ryfel Byd ar ynys Creta, a’r digwyddiadau eithafol a newidiodd bentref Anogia am byth. Dyma’r ail wobr i Gareth ei hennill mewn cwta wythnos gan iddo dderbyn Gwobr Tir na n-Og am y chweched tro brynhawn dydd Iau 28 Mai am ei nofel i bobl ifainc, Y Gêm (Gwasg Carreg Gwalch).

Dau awdur sy’n wreiddiol o Gaernarfon sydd wedi dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth a Ffeithiol Greadigol Cymraeg. Y gyfrol fuddugol yn y categori Barddoniaeth yw Un Stribedyn Bach (Gwasg Carreg Gwalch) gan Rhys Iorwerth. Dyma gyfrol gyntaf y Prifardd ifanc lle mae’n ceisio gwneud pen a chynffon o’i ddeng mlynedd ar hugain gyntaf ar y ddaear. Mae’r gyfrol hardd wedi’i dylunio gan yr artist Rhys Aneurin. Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol yw Llŷr Gwyn Lewis gyda Rhyw Flodau Rhyfel (Y Lolfa). Dyma lyfr am hanes, rhyfel a theithio sy’n blethiad hyfryd o ffaith a ffuglen â’i ganolbwynt ar y cof a sut yr ydym ni’n coffáu.

Enillydd Gwobr Barn y Bobl 2015 yw Saith Oes Efa (Y Lolfa) gan Lleucu Roberts. Enillodd y gyfrol hon o straeon byrion Fedal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014. Gweinyddwyd Gwobr Barn y Bobl gan Golwg360.

Dywedodd Hywel Griffiths ar ran y panel beirniadu Cymraeg: “Roedd cael beirniadu yn fraint ac yn bleser, a bydd pob llyfr ar y rhestr fer yn aros gyda mi am amser hir iawn. Cafwyd barddoniaeth gyfoes a dyfeisgar, llyfrau ffeithiol awdurdodol, uchelgeisiol ac arhosol a gwaith ffuglennol ysgubol a oedd yn cyffwrdd â'r galon. Mae'r enillydd, Awst yn Anogia, yn eithriadol yn y modd y mae’n creu cymeriadau a lleoedd y mae’r darllenydd yn poeni amdanynt. Dyma epig hanesyddol lle mae effaith rhyfel yn dod yn fyw drwy fywydau pobl gyffredin.”

Enillydd y categori Ffeithiol Greadigol a gipiodd brif wobr Saesneg y noson wrth i’r beirniaid gyhoeddi mai Other People’s Countries (Jonathan Cape) gan Patrick McGuinness yw Llyfr y Flwyddyn Saesneg 2015. Pwnc y gyfrol yw Bouillon, un o drefi’r ffin yng ngwlad Belg; man geni ei fam, a lleoliad sy’n agos at galon yr awdur. Dyma’r eildro i Patrick ennill prif wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn gan iddo ddod yn fuddugol yn 2012 gyda’i nofel The Last Hundred Days (Seren).

Enillydd y categori Ffuglen Saesneg yw The Dig (Granta) gan Cynan Jones, nofel fer ddeifiol lle mae dyn a chreadur, y tir a’r tywydd yn gwrthdaro. Cyfrol o gerddi Tiffany Atkinson, So Many Moving Parts (Bloodaxe Books) ddaeth i’r brig yn y categori Barddoniaeth Saesneg. Mae So Many Moving Parts yn fyfyrdod ecsentrig ar letchwithdod y corff a’r enaid a’u heffaith ar fywyd beunyddiol. Beirniaid y llyfrau Saesneg yw Alex Clark, Tessa Hadley a Paul Henry. Enillydd y People’s Choice Award oedd Jonathan Edwards gyda’i gyfrol arobryn My Family and Other Superheroes (Seren).

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yn Galeri Caernarfon ar nos Iau 4 Mehefin yng nghwmni beirniaid y gystadleuaeth, awduron y Rhestr Fer a’u gwesteion, gweisg yr holl lyfrau llwyddiannus ac aelodau o’r cyhoedd. Yn ystod y seremoni derbyniodd enillydd pob categori wobr ariannol o £2,000, gydag enillydd y brif wobr yn derbyn £6,000 yn ychwanegol. Yn ogystal cyflwynwyd i bob enillydd dlws dur bendigedig wedi’i gynllunio a’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Llongyfarchiadau gwresog i bob un o’r enillwyr am eu llwyddiant eleni. Hoffwn longyfarch yr holl awduron eraill hefyd; mae cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn yn gryn gamp. Braf hefyd yw gweld bod golygon awduron o Gymru wedi eu hoelio ar y gorwel. Maent yn arwain darllenwyr i diroedd pellennig gan gyflwyno diwylliannau a hanes newydd i ni tra’n parhau i fod yn driw i’n hunaniaeth ein hunain.”

Gweinyddir Gwobr Llyfr y Flwyddyn gan Llenyddiaeth Cymru, a hynny mewn partneriaeth â Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymdeithas Brycheiniog, Pethe, Golwg360, Wales Arts Review a Cyngor Llyfrau Cymru.

Rhannu |