Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Mehefin 2015

Dicter wrth i Lywodraeth y DG olchi ei dwylo o wasanaeth cyhoeddus allweddol

Mae Plaid Cymru wedi ymateb gyda dicter wrth i Lywodraeth y DG gyhoeddi y byddant yn gwerthu eu cyfran sydd weddill yn y Post Brenhinol.

Dywedodd Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, Rhun ap Iorwerth, fod hyn yn profi nad oes modd ymddiried yn y blaid Geidwadol gyda gwasanaethau cyhoeddus, ac nad oes ganddynt ddiddordeb mewn gwneud yr hyn sy’n iawn i bobl Cymru.

Dywedodd bod yn rhaid rhoi blaenoriaeth yn awr i warchod yr Oblygiad Gwasanaeth Cyffredinol.

Meddai Gweinidog cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi Rhun ap Iorwerth: “Mae Plaid Cymru yn wastad wedi gwrthwynebu preifateiddio’r Post Brenhinol, ac yr ydym ni yn wastad wedi rhybuddio nad yw’n iawn rhoi elw cyn pobl.

"Rwy’n poeni am yr effaith gaiff preifateiddio llawn ar y gwasanaeth, yn enwedig mewn ardaloedd mwy anghysbell fel yr ardal wledig rwy’n gynrychioli.

“Heddiw mae Llywodraeth y DG wedi profi eu bod yn awyddus i olchi eu dwylo o gymaint o wasanaethau cyhoeddus ag sydd modd, waeth pa effaith gaiff hyn ar gymunedau.

“Rhaid rhoi blaenoriaeth yn awr i warchod yr Oblygiad Gwasanaeth Cyffredinol. Bydd Plaid Cymru yn parhau i ymladd yn erbyn obsesiwn Llywodraeth Dorïaidd y DG â phreifateiddio, ac yn gweithio tuag at adeiladu gwasanaethau cyhoeddus sydd yn gwasanaethu pobl Cymru.”

Rhannu |