Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mai 2011
Karen Owen

Ffrae cylchoedd cinio

MAE cylchoedd cinio sydd wedi arfer cyfarfod mewn gwesty ffrae iaith ym Môn, yn ystyried a fyddan nhw’n parhau i gynnal eu digwyddiadau Cymraeg yno.

Oherwydd bod aelod o staff wedi tynnu sylw at reol iaith oedd yn gwahardd staff rhag siarad Cymraeg yng nghegin Carreg Môn yn Llanfairpwllgwyngyll, mae o leiaf ddau gylch cinio a arferai gyfarfod yno’n rheolaidd wedi gadael, ac mae un arall yn ystyried beth i’w wneud.

Mae Y Cymro yn deall bod y rhain yn gylchoedd cinio Cymraeg sydd wedi bod yn cynnal eu cyfarfodydd misol yng ngwesty Carreg Môn (Carreg Brân cyn hynny) ers rhai blynyddoedd.

Bydd cylch cinio Llanfairpwllgwyngyll yn trafod yn fuan a fyddan nhw’n ymgynnull yno eto. Mae Y Cymro yn deall bod eu cyfarfod nesaf yn digwydd yn Nhafarn Y Gors, Pentre Berw, wythnos i heno (nos Wener, 13 Mai), a dyna pryd y byddan nhw’n trafod eu camau nesaf.

Cylch Cinio’r Foel o ardal Brynsiencyn a Dwyran ydi’r ail gylch sydd wedi penderfynu symud o Garreg Môn. I Dafarn Y Gors y byddan nhwthau’n mynd o hyn ymlaen.

Roedd Cylch Cinio Bangor yn arfer ciniawa yno hefyd, ond fe gynhaliwyd eu cyfarfod mis Ebrill yn y Gardd Fôn ar ochr arall y Fenai ym mhentref Y Felinheli.

Rhannu |