Mwy o Newyddion

RSS Icon
28 Mai 2015

Arbenigwr lymffoedema i blant a phobl ifanc yng Nghymru yw’r cyntaf o’i fath yn y DU

Mae’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford wedi cyhoeddi y caiff  gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd â lymffoedema eu gwella wrth i swydd benodedigl, sef arbenigwr pediatrig cenedlaethol, gael ei chreu yn GIG Cymru.
 
Y swydd yw’r gyntaf o’i math yn y DU a bydd yn helpu i sicrhau y bydd mwy o ofal ym maes lymffoedema i’r 54 o blant sy’n dioddef o’r cyflwr nychus hwn yn cael ei ddarparu’n agosach at gartref yn y  dyfodol. Bydd hyn yn golygu na fydd rhaid i deuluoedd deithio pellter hir i ganolfannau arbenigol yn Llundain a Lerpwl.
 
Chwydd cronig sy’n cael ei achosi fan fethiant y system lymffatig yw lymffoedema. Gall ddeillio o annormaledd cynhenid neu ddifrod sy’n cael ei achosi gan lid, pigiad, trawma, tiwmor, llawfeddygaeth neu ymbelydredd. Mae angen i’r cyflwr gael ei reoli drwy gydol oes yr unigolyn.
 
Yn achos  plant, mae’r effaith gorfforol yn cynnwys poen, chwyddo, symudiad cyfyngedig, newidiadau yn y croen, llai o nerth yn y cyhyrau, anhawster wrth gerdded, rhedeg, chwarae a’r gallu i afael mewn pethau.
 
Yn ôl archwiliad o lymffoedema ymhlith plant yn y DU, a gyhoeddwyd yn 2014, mae lymffoedema mewn plant yn brin ac ychydig yn unig o weithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd yn y DU sydd â’r profiad o wneud diagnosis o lymffoedema a’i drin mewn plant.
 
Yng Nghymru nid oes unrhyw glinig pediatrig ar gyfer lymffoedema. Nifer bach yn unig o ganolfannau lymffoedema arbenigol yn y DU fydd yn derbyn atgyfeiriadau pediatrig, gan gynnwys Ysbyty St George ac Ysbyty Great Ormond Street yn Llundain ac Ysbyty Brenhinol Lerpwl.
 
Mae rhai rheini yng Nghymru yn atgyfeirio eu plant yn uniongyrchol at yr  ysbytai hyn ac yn teithio yno ar gost sylweddol - mae 90% o blant â lymffoedema wedi mynychu apwyntiadau y tu allan i Gymru yn y gorffennol.
 
Dywedodd yr Athro Drakeford: “Mae lymffoedema’n cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd person a’i allu i gyflawni gweithgareddau arferol.
 
“Oherwydd y nifer bach o ganolfannau ledled y DU sy’n darparu gwasanaethau  lymffoedema pediatrig, mae plant yn aml yn cael anawsterau i gael mynediad i wasanaethau a thriniaeth briodol.
 
“Bydd y swydd arbenigol newydd yng Nghymru yr wyf yn ei chyhoeddi heddiw  - y swydd gyntaf o’i math yn y DU, yn gwella’r gwasanaethau sydd ar gael i blant yng Nghymru, gan ganiatáu iddynt gael eu trin yn agosach at eu cartref.
 
“Bydd yn cynnig un pwynt cyswllt, yn lleihau amseroedd aros i blant a theuluoedd sy’n dymuno cael apwyntiad, a bydd yn cydweithio'n agos â’r staff presennol yn y rhwydwaith lymffoedema i godi ymwybyddiaeth ym maes gwneud diagnosis o  lymffoedema mewn plant a’i drin.”
 
Bydd bodolaeth swydd arbenigol bediatrig yn helpu i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth ymarferwyr am y cyflwr yng Nghymru. Caiff llwybr lymffoedema pediatrig ei ddatblygu a bydd gwasanaethau teleiechyd yn cysylltu teuluoedd ag arbenigwyr.
 
Bydd uned symudol Tenovus, sy’n teithio ledled Cymru, yn galluogi plant a’u teuluoedd i gael asesiad a thriniaeth am lymffoedema yn lleol.
 
Dywedodd Melanie Thomas, yr arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer lymffoedema yng Nghymru: “Rwyf wrth fy modd ein bod ni bellach yn gallu rhoi’r un gwasanaeth i blant â lymffoedema ag yr ydym yn ei gynnig i oedolion. Bydd y swydd unigryw hon yn gwneud gwelliant sylweddol i’r gofal a’r cymorth presennol a gynigir i blant a’u teuluoedd.
 
“Rwyf yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am gefnogi’r gwasanaeth hwn ac edrychaf ymlaen at weld y manteision a ddaw yn ei sgil.”
 

Rhannu |