Mwy o Newyddion
£6m i helpu pobl hŷn i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi
Mae buddsoddiad o £6 miliwn i helpu pobl hŷn i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, wedi'i gyhoeddi gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Lesley Griffiths.
Mae'r cyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi gwaith hollbwysig y gwasanaeth Gofal a Thrwsio, sy'n cynnal addasiadau, megis rampiau, canllawiau, a larymau diogelwch, fel y gall pobl hŷn fyw yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.
Mae £2 filiwn o'r cyllid ar gyfer y Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym, sy'n darparu addasiadau bychan i helpu i osgoi anfon nifer o bobl i'r ysbyty ac yn galluogi i'r rhai sydd yn yr ysbyty gael eu rhyddhau'n gynt, sy'n ysgafnhau y pwysau ar y GIG. Mae amcangyfrifon yn dangos, o bob punt sy'n cael ei fuddsoddi yn y rhaglen, bod arbedion sylweddol o £7.50 i'n gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
Meddai Lesley Griffiths: “Mae Gofal a Thrwsio a'r Rhaglen Addasiadau Ymateb Cyflym yn helpu i drawsnewid bywydau mwy na 40,000 o bobl hŷn ledled Cymru bob blwyddyn.
"Drwy wneud addasiadau cymharol fychan i gartrefi pobl, mae'r gwasanaethau hyn yn galluogi pobl i fyw yn ddiogel yn y cartrefi y maent yn eu caru gyda'r urddas y maent yn ei haeddu.
“Wrth i bobl ledled Cymru fyw bywydau hirach, iachach, mae mesurau ataliol o'r fath yn chwarae rôl fwyfyw pwysig o gefnogi ein gwasanaethau iechyd a chymdeithasol.
“Gan gydnabod hyn, rydym wedi gweithio'n galed i amddiffyn y gyllideb Gofal a Thrwsio cymaint â phosib, er gwaethaf y toriadau o £1.4 biliwn sydd wedi'u gorfodi arnom gan Lywodraeth Prydain.
"Er bod yn rhaid i bob un o'n rhaglenni, wrth gwrs, weithio'n fwy effeithiol yn yr hinsawdd ariannol presennol, rwy'n falch y bydd y £6 miliwn yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn sicrhau bod cymaint o bobl hŷn â phosib yn cadw eu hannibyniaeth."
Aeth y Gweinidog i ymweld â chartref Betty Probert, sy'n 93 mlwydd oed, ac sy'n gleient i gynllun Gofal a Thrwsio Casnewydd, i weld drosti ei hun yr effaith a gaiff y gwasanaethau.
Meddai Betty: “Alla i ddim diolch digon i'r cynllun Gofal a Thrwsio. Mae'n wych sut y mae rhai newidiadau bychan wedi newid ansawdd fy mywyd, gan olygu y gallaf barhau i fyw yn y cartref yr wyf yn ei garu.
“Mi alla i bellach fynd i'r gwely a chysgu'n dda - maen nhw wedi rhoi imi yr hyder a gollais yr holl flynyddoedd yn ôl. Hebddynt, tydw i ddim yn siŵr beth fuaswn i wedi'i wneud."
O'r cyllid o £6,037,000 a gyhoeddwyd heddiw, bydd £5, 468,000 yn mynd i Asiantaethau Gofal a Thrwsio, i'w galluogi i gynnal gwaith hollbwysig i wella'r cartref, gyda £569,000 yn cael ei roi i Gofal a Thrwsio Cymru, sy'n cydlynnu ac yn cefnogi'r asiantaethau lleol.