Mwy o Newyddion
Cychwyn brechu moch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys
Mae’r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans wedi cyhoeddi bod pedwaredd flwyddyn prosiect pum mlynedd Llywodraeth Cymru i frechu moch daear wedi cychwyn yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yn y gorllewin.
Mae’r prosiect brechu’n rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru. Yn ystod tair blynedd gyntaf y prosiect llwyddwyd i roi dros 4000 dos o’r brechiad i foch daear.
Dywedodd Rebecca Evans: “Mae’n rhaglen dileu TB yn cynnwys amrywiol fesurau mewn partneriaeth gyda’r diwydiant
"Mae’n cynnwys profion blynyddol, cyfyngiadau ar symud gwartheg, cyngor bioddiogelwch rhad ac a ddim i ffermwyr drwy’n menter Cymorth TB, a brechu moch daear yn yr Ardal Triniaeth Ddwys ac ar draws Cymru gyda chymorth ein grant brechu moch daear.
“Mae’r prosiect brechu yn yr Ardal Triniaeth Ddwys yn ceisio datblygu rhywfaint o imiwnedd rhag TB buchol ymysg y boblogaeth o foch daear, ac fe ddylai leihau’r perygl i’r haint ledaenu i wartheg a moch daear eraill yn yr ardal.
"Rydyn ni’n monitro canlyniadau’r gwaith brechu ac yn cyhoeddi adroddiad am ein cynnydd bob blwyddyn. Mae adroddiad ar drydedd flwyddyn y prosiect ar gael nawr ar wefan Llywodraeth Cymru.
“Prosiect gwirfoddol yw hwn, ac rwy’n ddiolchgar iawn i ffermwyr a thirfeddianwyr yr ardal am eu cymorth a’u cefnogaeth i’r swyddogion maes.”
Mae’r gwaith o frechu yn digwydd mewn cylchoedd, ac mae disgwyl iddo barhau hyd at ddiwedd mis Hydref. Mae’r rhan fwyaf o gylchoedd brechu’n para am bedair wythnos - y tair wythnos gyntaf ar gyfer trafodaethau gyda’r tirfeddiannwr a’r gwaith paratoi, ac mae’r brechu yn digwydd yn ystod yr wythnos olaf. Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau mewn saith cylch eleni.
Gweithwyr trwyddedig Llywodraeth Cymru sy’n gwneud y gwaith brechu ar ôl llwyddo i gwblhau cwrs yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar drapio moch daear mewn cawell a’u brechu drwy bigiad.
Gellir gweld adroddiadau tair blynedd gyntaf y prosiect brechu moch daear yma: http://llyw.cymru/topics/environmentcountryside/ahw/disease/bovinetuberculosis/intensive-action-area/badger-vaccination-iaa/?lang=cy