Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Mai 2015

Rhaglen ddeddfwriaethol San Steffan yn bygwth buddiannau Cymru

MAE Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, Jonathan Edwards AS, wedi ymateb i Araith y Frenhines ddydd Mercher gan rybuddio fod rhaglen ddeddfwriaethol llywodraeth San Steffan yn peri bygythiad i fuddiannau Cymru.

Dywedodd Mr Edwards y byddai’r ymosodiad ar hawliau dynol yn ffurf addewid i gael gwared ar y Ddeddf Hawliau Dynol a chyflwyno Siarter ‘Snoopers’, ynghyd â phecyn gwan o bwerau newydd, yn gadael economi a phobl Cymru ar eu colled.

Dywedodd Mr Edwards: “Mae’r rhaglen ddeddfwriaethol a gyhoeddwyd yn San Steffan heddiw yn peri bygythiad i fuddiannau Cymru.

“Bydd yr ymosodiad ar hawliau dynol yn ffurf addewid i gael gwared ar y Ddeddf Hawliau Dynol yn arwain at amharu ar breifatrwydd a chael gwared ar sawl mesur gwarchod sy’n cael eu cymryd yn ganiataol gan y mwyafrif ohonom.

“Yn ei ffurf bresennol, mae’r Mesur Cymru – o’i gymharu â’r hyn sydd ar gynnig i rannau eraill y DG – yn ymddangos fel pecyn gwan o bwerau sy’n dangos mai dim ond newidiadau bychan sydd gan lywodraeth San Steffan mewn golwg yn hytrach na bargen ystyrlon i Gymru. Byddwn yn ceisio cryfhau’r Mesur unwaith y daw deddfwriaeth gerbron.

“Nid oes rheswm yn y byd pam na ddylai Cymru gael cynnig yr un pwerau a’r rhai sydd ym Mesur yr Alban. Nid cenedl eilradd yw Cymru.
“Gyda’r blaid Lafur mor dawel ag erioed pan ddaw’n fater o fynnu setliad cryfach i Gymru, mae dibynnu ar ASau Plaid Cymru i gryfhau llais y genedl yn y senedd newydd.
“Mae’r ddadl ynghylch dyfodol yr UE yn datgelu gwendidau’r llywodraeth yn barod gyda’r Prif Weinidog yn cael ei arwain gan yr Ewrosgeptics.

“Amcan Plaid Cymru yw cryfhau llaw Cymru yn Ewrop.

“Byddwn yn ceisio gwella mesur refferendwm yr UE er mwyn gwarchod buddiannau cenedlaethol Cymru.

“Gyda’r llywodraeth Dorïaidd yn debygol o gael ei dal yn wystlon gan adain dde’r blaid ar sawl achlysur dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn galw dadleuon, gosod gwelliannau, gorfodi pleidleisiau ac annog ASau eraill o Gymru i ymuno a ni i warchod ein cenedl rhag agweddau gwaethaf llywodraeth San Steffan.”

Rhannu |