Mwy o Newyddion
Arweinydd Plaid Cymru yn tanio’r ergyd gyntaf yn etholiad cyffredinol Cymru
Mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi galw am i etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf fod yn “gystadleuaeth syniadau” am yr hyn y bydd pleidiau gwleidyddol yn ei wneud i wella iechyd, economi ac addysg.
Dywedodd Ms Wood y byddai’n “gamwasanaeth” i bobl Cymru pe na chaent y cyfle i graffu ar yr hyn wnaiff gwleidyddion drostynt hwy, yn hytrach na’r hyn nad ydynt am i eraill wneud.
Gwnaeth arweinydd Plaid Cymru, fydd yn sefyll yn y Rhondda yn yr etholiad, y sylwadau yn ei haraith gyntaf ar ôl canlyniadau’r Etholiad Cyffredinol yn gynharach y mis hwn.
Wrth annerch cynulleidfa yn adeilad Atrium Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Ms Wood: “Fy ngobaith i yw mai Etholiad Cyffredinol nesaf Cymru fydd yr un cyntaf lle bydd ein bodolaeth fel democratiaeth normal yn amlwg.
“Yr hyn rwy’n olygu yw y dylid cael cystadleuaeth syniadau rhwng y gwahanol bleidiau ar gyfer gwella a chryfhau gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a’r economi.
“Byddai’n gamwasanaeth petai’r cyfle hwnnw yn cael ei wrthod i bobl. Yn rhy aml, mae pleidiau gwleidyddol yma wedi ceisio beio eraill am ein holl drafferthion.
“Tra bu Cymru yn gyson ar ei cholled dan un llywodraeth DG ar ôl y llall, yr hyn mae pobl Cymru yn ei haeddu yn awr yw cystadleuaeth rhwng ei gwleidyddion am yr hyn wnân nhw, nid beth nad ydyn nhw am i eraill wneud.”
Adfyfyriodd Ms Wood am ganlyniadau’r Etholiad Cyffredinol, gan ddweud fod tair rhan o’r DG wedi methu â rhoi mandad i’r Blaid Geidwadol i lywodraethu drostynt. Dywedodd ei bod yn “annerbyniol” y gallai dinas-ranbarthau Lloegr toc gael mwy o ymreolaeth na Chymru.
“Er mwyn i strwythurau ledled y DG weithio, rhaid cael lle parhaol i’r broses ddatganoli ffynnu heb fod angen i unrhyw un rhan o’r DG neidio dros un rhwystr ar ôl y llall er mwyn trosglwyddo’r darnau lleiaf o gyfrifoldeb,” meddai Ms Wood.
“Mae Plaid Cymru yn cynnig heddiw y dylai pob cyfrifoldeb ac eithrio’r rheiny dros amddiffyn, y Goron ac arian trafod gael eu trosglwyddo i unrhyw rai neu bob un o’r llywodraethau datganoledig, a chymryd bod mwyafrif yn pleidleisio o blaid trosglwyddo o’r fath yn y deddfwriaethau cenedlaethol perthnasol.
“Yn ymarferol, byddai hynny yn golygu y gall pleidiau geisio mandad am fwy o ymreolaeth ar faterion penodol, ac os cânt y mandad hwnnw, byddai’r cyfryw gyfrifoldebau yn cael eu trosglwyddo.”
Dywedodd Ms Wood y byddai hyn yn darparu “proses barhaol a chlir ar gyfer datganoli” am flynyddoedd i ddod.
Ar wahân i setlo’r trefniadau cyfansoddiadol o fewn y DG cyn gynted ag sydd modd, dywedodd Ms Wood mai blaenoriaeth arall i Blaid Cymru oedd gwrthwynebu diddymu’r Ddeddf Hawliau Dynol, oedd yn un o addewidion etholiadol y Blaid Geidwadol.
Rhybuddiodd Ms Wood fod y mater yn “fwy na dim ond mater i lywodraeth y DG na Senedd San Steffan – mae’n fater i bob senedd a llywodraeth yn y DG.”
Ychwanegodd: “Mae hawliau dynol sylfaenol yn un o feini adeiladu democratiaeth a dylent aros felly yn ein democratiaeth yma.”
Gan droi ei sylw at etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf, dywedodd Ms Wood fod pobl Cymru yn haeddu gwybod beth fyddai mandad i’w phlaid hi yn ei olygu yn nhymor cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru.
“Rwyf eisiau i’r Etholiad Cyffredinol Cymreig nesaf fod yn un lle mae’r canolbwynt ar record gyflwyno wael Llafur, ac addewid y Blaid am newid gwirioneddol,” meddai Ms Wood.
“Mae pobl eisiau gweld pethau yn gwella yn eu bywydau, yn eu meddygfa, eu hysgol, eu hysbyty a’u man gwaith.
“Bydd rhaglen lywodraethu Plaid Cymru yn fater o gyflawni hynny.”
Ychwanegodd: “Mae angen i dymor nesaf y Cynulliad ganolbwyntio ar gyflawni, amcanion a chanlyniadau go-iawn fydd yn gwella bywydau pobl Cymru.
“Dim ond pan fydd ei phobl yn barod i hyrwyddo ein democratiaeth fel arwydd o lwyddiant y bydd gan Gymru ddigon o hyder i sefyll ar ei thraed ei hun.
“Fydd hyn fyth yn digwydd dan y weinyddiaeth Lafur flinedig hon sydd yn hollol hesb o uchelgais, cynnydd na gobaith.”
Diweddodd ei haraith trwy ddweud: “Rwyf eisiau dweud yn glir wrth bobl Cymru heddiw y bydd modd cyflawni rhaglen lywodraeth Plaid Cymru yn gyflawn, waeth beth fydd y fframwaith cyfansoddiadol y mae’n rhaid i ni weithio ynddo.
“Bydd ein blaenoriaethau diwyro yn canolbwyntio ar ddiogelu a gwella’r GIG, codi safonau a gobeithion mewn ysgolion, a chreu’r amodau economaidd ar gyfer busnesau ffyniannus a chyfleoedd am swyddi sy’n talu’n dda.
“Rwy’n gofyn i bobl ymddiried ym Mhlaid Cymru, i roi cyfle i ni ddangos yr hyn fedrwn ni wneud mewn llywodraeth.”