Mwy o Newyddion

RSS Icon
06 Mai 2011
Karen Owen

Geiriau ddim yn ddigon

MAE ymgyrchwr iaith yn bwriadu mynd heb fwyd na dŵr am dros ddau ddiwrnod yr wythnos nesaf er mwyn tynnu sylw at y bygythiad i gymunedau Cymraeg os caeir Ysgol y Parc ger Y Bala.

Bydd Ffred Ffransis, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar addysg, yn dechrau ei streic newyn fore Mawrth nesaf, 10 Mai. Fe fydd ei streic yn dod i ben 50 awr yn ddiweddarach yn gynnar brynhawn Iau, 12 Mai, hanner awr cyn cyfarfod o gynghorwyr Gwynedd a fydd yn penderfynu ar ddyfodol addysg ym Mhenllyn.

“Fy mwriad ydi mynd heb ddŵr na bwyd am gyfnod cyn eu penderfyniad ar Ysgol y Parc, a hynny fel symbol o’r ffaith fod bywyd y gymuned honno, a degau o gymunedau gwledig Cymraeg tebyg, yn y fantol,” meddai Ffred Ffransis wrth Y Cymro.

“Dw i wedi anfon nodyn personol ychwanegol at grŵp Plaid Cymru ar y Cyngor yn esbonio nad fy mwriad i ydi trio gorfodi unrhyw benderfyniad arnyn nhw, ond yn hytrach eu cymell i ddarllen yr holl dystiolaeth addysgol a phersonol cyn dod i benderfyniad er mwyn sylweddoli pa mor dyngedfennol yw’r penderfyniad hwn,” meddai wedyn.

“O ran fy ngweithred i, mae ymchwil a chyngor yn dangos fod modd fel arfer mynd am ryw dri diwrnod, tua 70 awr, heb ddŵr cyn bod niwed parhaol. Er mwyn gwneud y pwynt symbolaidd yn unig, dw i felly wedi gosod fy nghyfnod i heb ddŵr na bwyd yn 50 o oriau.”

I ddarllen mwy CLICIWCH YMA

Rhannu |