Mwy o Newyddion

RSS Icon
25 Chwefror 2011

Ras yn y Sahara

MAE aelod o staff Prifysgol Bangor yn paratoi i redeg dros 150 o filltiroedd yn y Sahara mewn ras sydd yn cael ei disgrifio fel “the toughest foot race on earth”.

Penderfynodd Alan Edwards o Gaernarfon, Pennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr Rhyngwladol ym Mhrifysgol Bangor, fod yr amser wedi cyrraedd i ymosod ar yr Marathon Des Sables, ar ôl iddo ddarllen erthygl amdano nôl yn 2005. Bydd yn un o 900 o gystadleuwyr sy’n cymryd rhan yn yr her eithafol ym mis Ebrill a bydd gofyn iddo redeg 156 o filltiroedd mewn 6 diwrnod, a hynny yn niffeithwch y Sahara ym Morocco – mewn tymheredd a all gyrraedd 45 gradd Celsius!

Dywedodd Alan, sydd yn wreiddiol o’r Bala: “Mae’n rhaid i ni fod yn hollol hunangynhaliol yn ystod y 6 diwrnod gan gario ein holl offer ar ein cefnau mewn rycsac. Mae hyn yn cynnwys bwyd, dŵr, offer coginio, offer cysgu, dillad a phecyn cymorth cyntaf (gan gynnwys pwmp ‘anti-venom’ rhag ofn i ni gael brathiad gan scorpionau neu nadroedd!) Yr unig gefnogaeth sydd ar gael yw bod y trefnwyr yn gosod pebyll ar ddiwedd pob dydd a bod gwasanaeth meddygol brys ar gael mewn argyfwng."

Rhannu |