Mwy o Newyddion
Cyngerdd elusennol Cadeirydd Cyngor Gwynedd
Mae £2,000 wedi ei godi tuag at Tŷ Gobaith gan y Cynghorydd Dewi Owen ar derfyn ei gyfnod fel Cadeirydd Cyngor Gwynedd.
Trefnwyd cyngerdd mawreddog gan y Cynghorydd Dewi Owen yn y Ganolfan Porthmadog yn ystod mis Mawrth gyda Tri Tenor Cymru a Band Ieuenctid yr Oakley. Cafwyd casgliad hefyd at Tŷ Gobaith yn ystod Gwasanaeth Sul y Cadeirydd yn Eglwys Sant Pedr, Aberdyfi ddiwedd Ebrill.
Cyn ei gyfarfod olaf fel Cadeirydd y Cyngor, cyflwynodd y Cynghorydd Owen siec o £2,000 i Tŷ Gobaith.
Dywedodd y Cynghorydd Owen: “Y mae wedi bod yn fraint cael gwasanaethu fel Cadeirydd Cyngor Gwynedd, ac roedd y digwyddiadau hyn yn sicr yn ddau o uchafbwyntiau’r flwyddyn.
“Hoffwn ddiolch i bawb a helpodd i drefnu’r digwyddiadau ac i bawb a fynychodd am eu cefnogaeth. Rydw i’n falch o gael rhoi’r arian i’r achos teilwng hwn.”
LLUN: Y Cynghorydd Dewi Owen yn cyflwyno’r siec i Katrina Lawson o Tŷ Gobaith