Mwy o Newyddion

RSS Icon
19 Mai 2015

Plant bach yn siarad: Adnoddau newydd i wella sgiliau siarad plant

Heddiw, bydd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau yn lansio adnoddau newydd i wella sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu plant ifanc.
 
Bydd yr adnoddau dwyieithog yn sicrhau bod y plant sy’n elwa ar Dechrau’n Deg yn cael y cymorth hanfodol ar gyfer datblygiad iaith cynnar. Rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau’n Deg.
 
Bydd rhieni a staff yn cael amrywiaeth o gynnyrch gan gynnwys pecyn “Dechrau Siarad” ar gyfer rhieni, olwyn datblygiad lleferydd ac iaith (genedigaeth i bum mlwydd oed) ar gyfer ymwelwyr iechyd Dechrau’n Deg a phosteri’n nodi’r camau o ran datblygiad lleferydd ac iaith.
 
Mae’r adnoddau hyn yn hyrwyddo ffyrdd o annog datblygiad iaith cynnar megis canu i fabis, troi’r teledu i ffwrdd pan ydych yn siarad â babanod a phlant, siarad wrth chwarae ynghyd â phwysigrwydd darllen i blant.
 
Mae tystiolaeth yn dangos bod sgiliau cyfathrebu gwael yn effeithio’n fawr ar ddatblygiad plant. Mae’n gallu effeithio ar eu hymddygiad, iechyd meddwl, parodrwydd i fynd i’r ysgol a chael gwaith yn y dyfodol. Am hynny mae’r cymorth y mae Dechrau’n Deg yn ei roi ar gyfer datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu yn un o’r prif elfennau sy’n cyfrannu at lwyddiant y rhaglen.
 
Caiff yr adnoddau newydd eu lansio ar y cyd â’r canllawiau i ymarferwyr Dechrau’n Deg ar nodi anghenion lleferydd ac iaith plant a’r gwahanol fathau o gymorth y gallant eu cynnig i blant ifanc a’u teuluoedd.
 
Bydd y Gweinidog yn ymweld â Dechrau’n Deg yn Nhrelái, Caerdydd heddiw i lansio’r canllawiau a’r adnoddau newydd. Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Lesley Griffiths:
 
“Mae’n fraint i weld â’m llygaid fy hun yr effaith bositif y mae ein rhaglen Dechrau’n Deg yn ei chael ar fywydau a theuluoedd yma yn Nhrelái a ledled Cymru. Gwnaeth 31,000 o blant Cymru elwa ar y rhaglen y llynedd ac mae’r rhaglen wir yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant.
 
“Mae cymorth ar gyfer anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn elfen allweddol o Dechrau’n Deg. Rydym yn gwybod bod sgiliau cyfathrebu gwael yn gallu effeithio’n  negyddol ar blant drwy gydol eu bywydau felly mae’n bwysig ein bod yn gosod y sylfaen cyn gynted ag y bo’n bosibl.
 
“Bydd yr adnoddau a’r canllawiau newydd rydw i’n lansio heddiw yn helpu staff a rhieni Dechrau’n Deg i roi’r cymorth sydd ei angen ar blant i gyrraedd eu potensial.”
 
Mae’r canllawiau a’r adnoddau wedi’u croesawu gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith. Dywedodd Dr Alison Stroud, Pennaeth Swyddfa Cymru y Coleg Brenhinol:
 
“Mae Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn croesawu’r adnoddau hyn ar gyfer staff a rhieni rhaglen Dechrau’n Deg. Mae’n gam mawr ymlaen o safbwynt gwella’r ddarpariaeth ar gyfer datblygiad iaith cynnar ein plant ifancaf a mwyaf difreintiedig.” 
 
“Rydym yn falch iawn bod aelodau o Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith yn gallu gweithio mor agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y dystiolaeth orau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cael ei fewnblannu yn y canllawiau a’r adnoddau hyn. Mae hynny’n sicrhau bod gan y plant sydd fwyaf difreintiedig yn gymdeithasol y sgiliau cyfathrebu angenrheidiol ar gyfer bywyd. Mae’n rhoi iddynt y Dechrau Da y maent yn ei haeddu.”
 

Rhannu |