Mwy o Newyddion
Ymgyrch ymwybyddiaeth tanau bwriadol
Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Tanau Bwriadol (18fed i'r 22ain o Fai), lansiodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fideo ymwybyddiaeth – Edrych Arna i Nawr – i addysgu pobl ifanc ar draws De Cymru o beryglon cynnau tân bwriadol.
Mae'r ymgyrch a'r fideo yn amlygu canlyniadau ‘perygl heb risg’ ymysg grŵp o ffrindiau a sut y gall gael canlyniadau i bawb sydd ynghlwm.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mynychodd GTADC dros 3,454 o danau eilaidd a gyneuwyd yn fwriadol gan gynnwys dros 2,000 o danau gwastraff a 1,220 o danau glaswellt bwriadol. Mae hwn, fodd bynnag, yn ostyngiad o 17.68% o'i gymharu â 2013/14, lle mynychodd y Gwasanaeth dros 4,000 o'r math hwn o danau bwriadol. Gweithred droseddol yw'r tanau hyn a gall y rhai sy'n gyfrifol gael eu cyhuddo o losgi bwriadol a'r canlyniadau a ddaw yn sgil hwn.
Dywedodd Dewi Jones, Pennaeth Trosedd Tân, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru: “ Mae'n wych i fod yn lansio ein hymgyrch ymwybyddiaeth llosgi bwriadol â ffilm fer sy'n cael effaith o'r fath a chredaf y bydd yn gwneud i'r bobl ifanc yr ydym yn ymgysylltu â hwy i dalu sylw a chanolbwyntio ar ganlyniadau cynnau tanau bwriadol.
“I ni fel Gwasanaeth, mae e ynghylch sicrhau ein bod yn parhau i leihau risg tanau a gyneuir yn fwriadol yn ein cymunedau drwy atal y gweithgarwch hwn yn y lle cyntaf, yn ogystal â gweithio'n agos â sefydliadau partner i ddiogelu ardaloedd allweddol De Cymru a ystyrir yn boethfannau.”
Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Tanau Bwriadol, bydd GTADC yn cynnal nifer o ddigwyddiadau yn yr orsaf ac o fewn y gymuned i rannu fideo ‘Edrych Arna i Nawr’ a rhannu sut all y gymuned adrodd unrhyw weithgaredd amheus.
I wylio'r fideo: http://bit.ly/gtadcdrychaarnainawr
Am ragor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru a'i ymgyrch, ymwelwch â www.decymru-tan.gov.uk