Mwy o Newyddion
Gwynedd yn llongyfarch y ddau Aelod Seneddol Plaid Cymru
Mae Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards yn falch y bydd dau Aelod Seneddol Plaid Cymru yn parhau i weithio gyda Chynghorwyr y Blaid yng Ngwynedd yn y ddwy etholaeth sy'n gysylltiedig â’r sir - Dwyfor Meirionnydd ac Arfon.
Am y tro cyntaf yn hanes Plaid Cymru, mae cynrychiolydd benywaidd, Liz Saville Roberts wedi ei hethol i gynrychioli Dwyfor Meirionnydd gyda Hywel Williams, AS, yn cadw ei sedd i gynrychioli trigolion Arfon.
Yn ôl y Cynghorydd Dyfed Edwards sy'n arwain tîm cryf o gynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd: "Dwi wrth fy modd ein bod yn parhau fel tîm cryf Plaid Cymru yng Ngwynedd, gyda chynrychiolwyr lleol a chenedlaethol yn gweithio fel un.
“Hoffwn longyfarch y ddau, Hywel Williams a Liz Saville Roberts ar eu llwyddiant, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth i ni barhau i fod yn uchelgeisiol dros bobl Gwynedd a Chymru. Rydym yn ddiolchgar i'n cefnogwyr yng Ngwynedd a gynorthwyodd yn ystod y gwaith o ymgyrchu.
“Byddwn yn wynebu llawer o heriau dros y misoedd nesaf, yn dilyn ethol Llywodraeth Geidwadol ar lefel y DU, ond mae'n rhaid i ni aros yn bositif ac yn uchelgeisiol ar gyfer pobl Gwynedd. Ein nod yw i weithio fel Tîm Gwynedd i greu Gwynedd ffyniannus a chyffrous lle y bydd cenhedlaeth y dyfodol yn gallu byw a gweithio o fewn y sir.”
Llun: Ffarweliodd Grŵp Plaid Cymru Gwynedd â’i cyn Gynghorydd, Liz Saville-Roberts, Morfa Nefyn yng Nghaernarfon yr wythnos ddiwethaf, wrth iddi ddechrau yn ei rôl newydd fel AS Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan heddiw