Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mai 2015

Tri Chynghorydd Llais Gwynedd yn ymuno â grwp Plaid Cymru Gwynedd

Croesawyd yn unfrydol tri Chynghorydd Llais Gwynedd i ymuno a grwp Plaid Cymru Gwynedd, heddiw. Mewn cyfarfod grŵp cyn cyfarfod llawn Cyngor Gwynedd yng Nghaearnarfon, croesawyd y Cynghorwyr Seimon Glyn, Gweno Glyn a Gruffydd Williams o ardal Dwyfor, i grŵp y Blaid.

Mae’r Cynghorydd Seimon Glyn yn cynrychioli Ward Tudweiliog; Y Cynghorydd Gweno Glyn yn cynrychioli Ward Botwnnog a’r Cynghorydd Gruffydd Williams yn cynrychioli Ward Nefyn.

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru Gwynedd, Dyfed Edwards: "Yn ein cyfarfod grŵp gwleidyddol cyn cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd heddiw, croesawodd Cynghorwyr Plaid Cymru yn unfrydol y tri chynghorydd i ymuno a'r grŵp.

"Dyma gyfnod tyngedfennol i ni yng Nghymru wedi’r Etholiad Cyffredinol ac mae’n galw am undod. Rydym yn wynebu Llywodraeth Geidwadol yn llywodraethu ar lefel y DU ar
y llwyfan gwleidyddol dros y cyfnod nesaf.

“Rydym yn parhau i fod yn gadarnhaol yma yng Ngwynedd ac yn genedlaethol yng Nghymru. Plaid Cymru yw'r blaid sydd â'r uchelgais wrth gynrychioli pobl Cymru a'u gwerthoedd yn effeithiol. Ein nod yw gweithio fel Tîm Gwynedd i greu Gwynedd ffyniannus a chyffrous lle bydd cenhedlaeth y dyfodol yn gallu byw a gweithio.”

Bydd gan Plaid Cymru bellach 38 cynghorydd,  mwyafrif clir, wrth gynrychioli pobl Gwynedd yn y Cyngor.

Llun: Dyfed Edwards

Rhannu |