Mwy o Newyddion
Cyffro ar faes Eisteddfod yr Urdd Caerffili
Mae Caerffili yn barod i lwyfannu un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop a gallwch ddilyn holl gyffro Eisteddfod yr Urdd 2015 o fore gwyn tan nos ar S4C o ddydd Sul, 23 tan ddydd Sadwrn, 30 Mai. O faes yr Eisteddfod yn Llancaiach Fawr, cawn gyfle i ddilyn yr amryw gystadlaethau a gweithgareddau gyda chriw o gyflwynwyr profiadol.
Anni Llŷn fydd yn llywio'r darllediadau bob bore gyda Trystan Ellis-Morris a Lois Cernyw yn crwydro'r maes. Iwan Griffiths fydd yn cyflwyno o'r stiwdio bob prynhawn wrth i ni fwynhau cyffro'r brif seremoni ddyddiol. Gyda'r nos, bydd Heledd Cynwal yn bwrw golwg yn ôl dros ddigwyddiadau'r dydd mewn rhaglen uchafbwyntiau.
Mae nifer o'r cyflwynwyr wedi bwrw eu prentisiaeth ar lwyfan yr Urdd. Cafodd Anni Llŷn, sy'n wyneb cyfarwydd i wylwyr ifanc Cymru, ei Choroni'n Brif Lenor yr Urdd yn 2012. Mae Iwan Griffiths, Gohebydd Chwaraeon Newyddion 9 ar S4C, yn glocsiwr o fri ac yn gyfarwydd â pherfformio ar lwyfan yr Eisteddfod.
Daw Iwan o bentref Penparc ger Aberteifi ac mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae e'n edrych ymlaen at gyflwyno o'r ŵyl eto eleni. "Er bod yna bocedi o Gymraeg yn ardal Caerffili, mi fydd nifer mae'n siŵr yn rhyfeddu o weld pobl ifanc - o bob rhan o Gymru - yn dod ynghyd i gystadlu a chymdeithasu mewn un lleoliad am wythnos gyfan. Ac oherwydd hynny, mae'n hollbwysig bod Eisteddfod yr Urdd yn ymweld ag ardaloedd fel hyn."
Dros y tair blynedd diwethaf mae trigolion y sir wedi bod yn cydweithio i godi arian a chodi ymwybyddiaeth am y digwyddiad. Mae'r gweithgareddau yn cynnwys trip seiclo o'r Bala i Lancaiach Fawr, cerdded Tri Chopa Cymru a nifer o gyngherddau yng Nghastell Caerffili.
"Fel un sy'n byw yn gymharol agos at Gaerffili, dwi wedi bod yn ffodus o gael bod yn rhan o ambell i weithgaredd codi arian, ac yn llwyr ymwybodol felly o waith diflino'r pwyllgor gwaith yn lleol. Mi alla i'ch sicrhau chi y cawn groeso cynnes ac wythnos i'w chofio ar faes Llancaiach Fawr a braint o'r mwyaf yw cael bod yn rhan o'r cyffro hwnnw," meddai Iwan.
Ar ddechrau'r Ŵyl, bydd S4C yn darlledu Oedfa'r Bore ar fore Sul, 24 Mai. O dan arweinyddiaeth disgyblion Ysgol Gyfun Cwm Rhymni fe fydd cyfraniadau gan y gweinidogion Parch R Alun Evans, Parch Milton Jenkins a'r Parch Denzil John.
Yr un diwrnod, byddwn yn dychwelyd i'r pafiliwn gyda'r nos ar gyfer darllediad byw o'r Cyngerdd Agoriadol gyda'r gyflwynwraig Alex Jones ac arweinydd Only Men Aloud Tim Rhys-Evans yn arwain y noson. Bydd perfformiadau yn cynnwys y gantores o Ferthyr Tudful Kizzy Crawford a Huw Euron, y canwr ac actor o Gaerffili.
O ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 25 i 30 Mai, bydd ein hymweliad â'r maes yn dechrau am 10.00 bob bore, gyda'r rhaglen Croeso i'r Steddfod. Bydd y darlledu byw yn parhau o 11.00 y bore hyd ddiwedd y prynhawn ac yn cynnwys sylw llawn o'r prif seremonïau am 2.30. A gyda'r nos bydd rhaglen uchafbwyntiau yn crynhoi digwyddiadau'r dydd.
Ar nos Sadwrn, 30 Mai, bydd y darlledu byw yn parhau i'r nos er mwyn dilyn gornestau'r corau a grwpiau dawns yr Aelwydydd, sy'n dod â'r cystadlu i ben am flwyddyn arall.
Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar y rhaglenni byw o'r maes drwy'r gwasanaeth botwm coch neu drwy ddefnyddio'r ddewislen iaith.
Bydd hefyd modd gwylio'r cyfan ar-lein ar s4c.cymru/clic. Cofiwch ymweld â gwefan s4c.cymru/urdd, fydd yn cael ei diweddaru'n gyson gyda'r canlyniadau diweddaraf.
Mae Ap yr Urdd yn ddwyieithog ac yn cynnwys map o'r Maes, amserlen weithgareddau a chanlyniadau'r cystadlaethau. Mae modd ei lawrlwytho yn rhad ac am ddim ar gyfer iPhone a ffonau Android. Am ragor o wybodaeth am sut i lawrlwytho'r ap, ewch i wefan yr Urdd - urdd.org/eisteddfod/ap-urdd.
Noddir rhaglenni S4C o Eisteddfod yr Urdd 2015 gan Principality.
Eisteddfod yr Urdd 2015
Gweler yr amserlen ar gyfer amseroedd y darllediadau a'r manylion llawn
Gwefan: s4c.cymru
Ar alw: s4c.cynru/clic
Cynhyrchiad Teledu Avanti Cyf ar gyfer S4C