Mwy o Newyddion
Cynllun i fynd i’r afael â’r defnydd cynyddol o sylweddau seicoweithredol
Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gethingwedi dweud fod cynllun yn cael ei ddatblygu i ymdrin â’r defnydd a’r ddarpariaeth gynyddol o sylweddau seicoweithredol yng Nghymru er mwyn yr atal y niwed y maent yn ei achosi.
Wrth annerch y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd y Dirprwy Weinidog y bu newid graddol yn y defnydd o gyffuriau dros y pum mlynedd diwethaf, gyda chwymp yn y galw am gyffuriau anghyfreithlon traddodiadol fel heroin a chynnydd yn y galw am sylweddau seicoweithredol newydd.
Mewn ymateb i’r newid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu’r cynllun cyflawni tair blynedd terfynol ar gyfer ei strategaeth camddefnyddio sylweddau 10 mlynedd, Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed.
Un o’r elfennau penodol fydd yn cael eu hychwanegu i’r cynllun yw pwysigrwydd addysgu ac ymgysylltu â myfyrwyr mewn sefydliadau addysg bellach ac uwch ynghylch y niwed y mae sylweddau seicoweithredol newydd a chyffuriau eraill yn eu hachosi. Mae hyn yn ehangu ar y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd mewn ysgolion ledled Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o’r 14 o argymhellion a wnaed mewn adroddiad gan bwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol yn dilyn ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd. Caiff y rhain eu hystyried fel rhan o’r cynllun cyflawni terfynol a’u hymgorffori ynddo.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mwy na £50m y flwyddyn mewn rhaglenni i atal y niwed a achosir gan gamddefnyddio sylweddau.
Dywedodd Mr Gething: “Mae camddefnyddio sylweddau yn broblem iechyd fawr sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau ar draws Cymru.
“Rydym wedi gweld newid graddol yn y defnydd o gyffuriau dros y pum mlynedd diwethaf, gyda chwymp yn y galw am gyffuriau anghyfreithlon traddodiadol fel heroin a chynnydd yn y galw am sylweddau seicoweithredol newydd.
“Mae gwasanaethau, comisiynwyr a’r rheini sy’n llunio polisi wedi gorfod addasu i’r sefyllfa hon sy’n newid o hyd. Dyw hyn ddim yn hawdd, wrth i sylwedd newydd â strwythur cemegol fymryn yn wahanol gymryd lle sylwedd arall cyn gynted ag y byddwch yn dod yn gyfarwydd ag e.”
Ychwanegodd: “Mater i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yw deddfwriaeth a chategorïau cyffuriau ac rydym yn credu bod lle dros osod categorïau cyffuriau ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan.
“Fodd bynnag, rydym yn awyddus i sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymateb yn fwy hyblyg.
"Yn dilyn cyhoeddi adroddiad panel adolygu arbenigol y Swyddfa Gartref ar gamddefnyddio cyffuriau ym mis Hydref 2014, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Swyddfa Gartref yn gofyn am ymateb deddfwriaethol ar frys i sicrhau bod gan asiantaethau gorfodi’r gyfraith y pwerau gorau posibl, a chyfleu’r neges fwyaf eglur posibl bod y fasnach mewn sylweddau fel hyn yn beryglus ac yn gallu achosi niwed i iechyd – neu farwolaeth hyd yn oed.”