Mwy o Newyddion
Agored Cymru yn bartner dibynadwy a gwerthfawr
Mae Agored Cymru, y corff dyfarnu o ddewis o safbwynt darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yn dathlu canfyddiadau'r arolwg Boddhad Cwsmeriaid a gynhaliwyd gan NOCN yn ddiweddar.
Roedd arolwg NOCN, corff dyfarnu blaenllaw, yn asesu adborth cwsmeriaid am bedwar corff dyfarnu blaenllaw: Agored Cymru, NOCN, One Awards ac OCN Northern Ireland.
Cafodd y cyrff dyfarnu eu hasesu yn erbyn nifer o feini prawf gwahanol a oedd yn ymwneud ag ansawdd y gwasanaeth i gwsmeriaid – roedd hynny’n amrywio o'r broses ardystio ac anfonebu i gyfathrebu'n gyffredinol.
Dangosodd canfyddiadau cyffredinol Agored Cymru fod 98% o'r rhai a holwyd yn teimlo eu bod yn cael gwasanaeth proffesiynol a chwrtais, a bod 94% yn teimlo bod eu hanghenion yn cael eu bodloni 'bob amser' neu 'gan amlaf'.
Roedd 93% yn 'fodlon iawn' neu'n 'fodlon' â'r broses ardystio.
Teimlai tri chwarter o’r rhai a holwyd fod Agored Cymru yn delio’n 'rhagorol' neu’n 'dda' â’u hymholiadau e-bost, ac roedd pawb o’r farn eu bod yn ymateb yn 'foddhaol’ i’w hymholiadau.
Dywedodd Anne Lewis, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes: "Mae ein perthynas â'n canolfannau yn bwysig dros ben i ni. Rydym yn falch iawn o’r gwasanaeth rhagorol rydym yn ei gynnig i gwsmeriaid.
"Rydym bob amser yn ceisio arloesi a gwella'r gwasanaeth a gynigir. Mae’n bwysig i ni fod yn hyblyg a chynnig cefnogaeth ar hyd bob cam o'r daith ddysgu – o’r broses gofrestru i ddatblygu cymwysterau a gwobrwyo llwyddiant.
"Mae ein canolfannau yn gwneud llawer mwy na dim ond darparu'r cymwysterau. Maen nhw'n gweithio gyda ni i wella a datblygu cymwysterau newydd. Mae hyn yn sicrhau ein bod ni’n arwain y ffordd wrth ymateb i anghenion y farchnad lafur, agendâu cenedlaethol a blaenoriaethau addysg Llywodraeth Cymru.
"Mae'r adborth gwerthfawr hwn yn ein galluogi i ddathlu ein llwyddiannau, ac mae hefyd yn cynnig ffyrdd i ni barhau i wella a buddsoddi yn y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu i'n cwsmeriaid presennol ac i gwsmeriaid newydd."
Yr wythnos hon, bydd y corff dyfarnu hefyd yn datgelu ei wefan newydd. Bydd gan y wefan ddyluniad newydd, bydd yn haws ei defnyddio, bydd yn cynnig canlyniadau chwilio gwell a bydd ganddo enw parth Cymraeg, www.agored.cymru.
Ychwanegodd Anne Lewis: "Rydym yn falch mai ni yw'r corff dyfarnu o ddewis o safbwynt darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru. "Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talentau yng Nghymru, i Gymru.
"Mae ein henw parth Cymraeg newydd yn ffordd arall i ni ddangos ein hymrwymiad i Gymru, i'r iaith Gymraeg ac i ddiwylliant Cymru."