Mwy o Newyddion
Cyllido cyfartal i Gymru “yn bwysicach nac erioed”
Mae’r setliad cyllido presennol sydd gan Gymru yn ffaeledig ac angen ei thrwsio, rhybuddiodd Plaid Cymru ddoe.
Nid yw’r setliad presennol yn gweithio er budd Cymru, ac y mae angen ei gywiro rhag blaen. Bu Plaid Cymru yn pwysleisio ers amser yr angen i ail-gydbwyso cyfoeth a chyfrifoldeb ar hyd a lled y DG er mwyn cael mwy o degwch, ac y mae sicrhau setliad tecach i Gymru yn rhan bwysig o hyn.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar Gyllid, Alun Ffred Jones: “Mae’n cael ei dderbyn yn eang nad yw’r setliad cyllido presennol yn gweithio er budd Cymru, ac y mae’n rhaid i ni ymdrin â hyn er mwyn cael ateb tymor-hir.
"Mae Plaid Cymru eisiau ail-gydbwyso cyfoeth a chyfrifoldeb trwy’r DG gyfan er mwyn cael mwy o degwch i bawb, ac y mae mynd i’r afael â thangyllido Cymru yn rhan bwysig o hyn.
“Bydd Plaid Cymru yn parhau i bledio achos cyllido Cymru ar yr un sail â’r Alban. Petai Cymru yn derbyn yr un lefel o gyllido â’r Alban y pen, byddai hynny’n golygu £1.2 biliwn yn ychwanegol bob blwyddyn, a dylai’r llywodraeth Lafur fod yn mynd ati i gael y setliad cyllido cyfartal hwn yn awr.
“Ni lwyddodd y llywodraeth Lafur i’m hargyhoeddi heddiw y dylai Cymru gael setliad cyllido eilradd. Does dim rheswm pam y dylai cleifion a disgyblion yng Nghymru fod dan anfantais, a bydd Plaid Cymru yn parhau i gyflwyno’r achos hwn.”