Mwy o Newyddion

RSS Icon
14 Mai 2015

Cyhoeddi manylion artistiaid Maes B

Mae manylion Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau eleni wedi cael eu cyhoeddi, a bydd bandiau ac artistiaid blaenaf Cymru yn perfformio yn yr ŵyl yn yr Eisteddfod o nos Fercher 5 Awst tan nos Sadwrn 8 Awst.

Meddai Guto Brychan, trefnydd Maes B ac un o gyd-lynwyr cerddoriaeth ar y Maes: “Rydym yn falch o gyhoeddi ein lein-yp ar gyfer eleni, ac rwy’n gobeithio y bydd yn restr sydd ar apelio at bawb sy’n dilyn y sîn roc yma yng Nghymru. Mae’r bandiau a’r perfformwyr mwyaf poblogaidd i gyd yn ymddangos ar y llwyfan ac rwy’n siŵr y bydd ‘na awyrgylch arbennig yn yr ŵyl eto eleni.

“Rydym wedi datblygu Maes B dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf ac yn bendant dyma brif ŵyl cerddoriaeth pop a roc Cymraeg yma yng Nghymru, ac mae’r ffaith bod gennym gynifer o fandiau eto eleni yn atgyfnerthu hynny. Mae delwedd yr ŵyl hefyd wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf a bydd rhagor yn cael ei wneud er mwyn datblygu hyn ymhellach eleni.

“Eleni rydym yn gobeithio y bydd cynulleidfa a chefnogwyr Maes B hefyd yn tyrru i Faes yr Eisteddfod ei hun hefyd, lle mae mwy o gerddoriaeth fyw nag erioed o’r blaen, gyda llwyfan y Maes, Caffi Maes B a’r Tŷ Gwerin i gyd yn cynnig amserlenni llawn o berfformiadau drwy gydol yr wythnos. Felly, gallwch fwynhau’r gerddoriaeth Gymraeg orau o ganol dydd tan yn hwyr gyda’r nos ar y Maes cyn dod draw i Faes B er mwyn clywed a mwynhau ein artistiaid diweddaraf.”

Lein-yp Maes B

Nos Fercher

Bryn Fôn, Y Bandana, Bromas, Y Cledrau, Trwbz, DJs Mari ac Elan

Nos Iau

Sŵnami, Y Reu, Gwenno, Casi, Band Pres Llareggub, DJs Nyth

Nos Wener

Yws Gwynedd, Yr Eira, Ysgol Sul, Breichiau Hir, Castro, DJ Huw Stephens

Nos Sadwrn

Candelas, Y Ffug, Cowbois Rhos Botwnnog, Mellt, Enillydd Brwydr y Bandiau, DJs Mari ac Elan

Mae tocynnau Maes B eisoes ar werth, gyda chynigion arbennig yn rhedeg tan ddiwedd Mehefin. Am wybodaeth am y bargeinion ac i brynu tocynnau ewch i www.maesb.com neu www.eisteddfod.org.uk.

Cynhelir yr Eisteddfod ym Meifod o 1-8 Awst.

Rhannu |