Mwy o Newyddion
Gweithdy llwyddiannus am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear
Daeth dros 70 o fyfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau yn cynnwys peirianneg, cemeg, gwyddor amgylcheddol, busnes, y gyfraith, seicoleg a daearyddiaeth at ei gilydd mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear.
Cynhaliwyd y gweithdy mewn partneriaeth â Horizon Nuclear Power, National Skills Academy for Nuclear (NSAN), a'r rhaglen Nuclear Graduates Programme.
Gan adeiladu ar ei rhan yn y fenter Ynys Ynni Môn, y gweithdy oedd y digwyddiad cyntaf a drefnwyd i fyfyrwyr gan y brifysgol yn dilyn llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng Prifysgol Bangor a Horizon Nuclear Power yn ddiweddar.
Trwy godi ymwybyddiaeth am gyfleoedd gwaith lleol yn y dyfodol, roedd y digwyddiad yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen gan raddedigion y brifysgol i ddilyn gyrfaoedd yn y sector ynni niwclear yn y Deyrnas Unedig.
Meddai Chris Little, Pennaeth Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor: “Ym Mhrifysgol Bangor rydym yn rhoi pwyslais mawr ar roi cyfleoedd i'n graddedigion ennill sgiliau a phriodoleddau, y tu hwnt i'w cymwysterau academaidd, sy'n eu gwneud yn unigolion mwy cyflawn a'u helpu i sefyll allan a chystadlu'n fwy effeithiol am swyddi ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau.
"Rydym yn ddiolchgar iawn i'n partneriaid o'r diwydiant niwclear am gymryd amser i weithio gyda'n myfyrwyr i godi ymwybyddiaeth am ddiwydiant sydd â rhywbeth i'w gynnig i raddedigion o'r amrywiaeth eang o ddisgyblaethau a ddysgir ym Mhrifysgol Bangor, yn ogystal â’r setiau sgiliau maent eu hangen i lwyddo yn y sector niwclear."
Gyda Horizon Nuclear Power eisoes yn buddsoddi'n sylweddol yn ei safle Wylfa Newydd ar Ynys Môn, meddai Richard Foxhall, Rheolwr Cysylltiadau Budd-ddeiliaid Horizon Nuclear Power:
“Roedd yn bleser mawr gennym gefnogi'r digwyddiad hwn, ac roeddwn yn falch iawn o weld gymaint o ddiddordeb yn y project Wylfa Newydd. Mae Horizon wedi'i ymrwymo i godi ymwybyddiaeth am y cyfleoedd gyrfaol a ddaw i ogledd Cymru yn y dyfodol trwy Wylfa Newydd. Rydym eisiau datblygu ein gweithlu yn lleol ac roedd y digwyddiad hwn yn fuddiol iawn i'n graddedigion sydd â diddordeb mewn cael gyrfa yn y diwydiant niwclear, naill ai gyda Horizon yn lleol, yn y gadwyn gyflenwi neu ymhellach i ffwrdd."
Mae NSAN wedi chware rhan allweddol bwysig yn y blynyddoedd diwethaf yn helpu Prifysgol Bangor i lunio ei syniadau am sgiliau niwclear posibl i'w graddedigion. Meddai Allison Hunt, Rheolwr Rhanbarthol NSAN Cymru, a oedd ei hun wedi graddio mewn Coedwigaeth a Gwyddor Pridd o Brifysgol Bangor:
“Bydd Wylfa Newydd angen amrywiaeth enfawr o sgiliau niwclear, peirianneg, adeiladu a threfniadol. Mae'n wych cael bod yn rhan o ddigwyddiad ar y cyd fel hwn i godi ymwybyddiaeth am gyfleoedd gyrfa tymor hir, yn lleol a hefyd ar raddfa ehangach, ar draws y rhaglen niwclear a gynllunnir yn y DU, ac a fydd angen 8600 o bobl y flwyddyn dros y 7 mlynedd nesaf. Mae NSAN yn gefnogol iawn o sefydliadau fel Horizon Nuclear Power trwy ddatblygu strategaethau i ddenu gweithwyr, ar lefel leol a chenedlaethol, i sicrhau bod cyflenwad o weithwyr medrus ar gael i brojectau yn ystod y cyfnodau adeiladu a gweithredu."
Yn y digwyddiad cafodd myfyrwyr Prifysgol Bangor gyfle i gyfarfod a siarad â graddedigion sydd wedi ymuno â'r diwydiant yn ddiweddar sef Ross Murison, myfyriwr graddedig a noddwyd gan Rolls Royce, a Kevin O'Donoghue, a noddwyd gan RWM, ac mae’r ddau ar y rhaglen Graddedigion Niwclear. Rhoddodd y ddau gyflwyniad i'r myfyrwyr am sut y gwnaethant ddewis eu gyrfa a pha mor hanfodol ydyw i fyfyrwyr sy'n gobeithio mynd i'r diwydiant niwclear a llwyddo yno, gael sgiliau datrys problemau ehangach, ymwybyddiaeth o fusnes a'r gallu i addasu.
Yn y digwyddiad dewiswyd dwy fyfyrwraig ffodus, Jessica Roberts o Ysgol y Gyfraith ac Emily Riley o'r Ysgol Gwyddorau Eigion i wneud un o'r achrediadau Triple Bar NSAN yng Ngholeg Llandrillo Menai. Bydd yr hyfforddiant a'r prawf medrusrwydd a wneir ganddynt ac a ariannir gan broject dysgu yn y gwaith Canolfan Sgiliau Cadarn y brifysgol, yn rhoi iddynt achrediad a gydnabyddir gan y sector diwydiant ac sydd ei angen i weithio yn y safleoedd niwclear presennol yn y DU.
Lluniau:
Allison Hunt, Rheolwr Rhanbarthol NSAN Cymru, yn llongyfarch Jessica Roberts o Ysgol y Gyfraith ac Emily Riley o'r Ysgol Gwyddorau Eigion ar eu derbyn i wneud un o'r achrediadau Triple Bar NSAN. Bydd yr hyfforddiant a'r prawf medrusrwydd yn rhoi iddynt achrediad a gydnabyddir gan y sector diwydiant ac sydd ei angen i weithio yn y safleoedd niwclear presennol yn y DU.