Mwy o Newyddion
Gweithred gyntaf y llywodraeth Dorïaidd yw troi eu cefn ar eu haddewid i Gymru
GWEITHRED gyntaf y llywodraeth Geidwadol newydd fu gwneud tro pedol am eu haddewid i bobl Cymru, meddai Leanne Wood.
Yr oedd arweinydd Plaid Cymru yn ymateb i adroddiadau nad yw Mesur Cymru arfaethedig llywodraeth newydd San Steffan yn debyg o gael ei gyflwyno ym mlwyddyn gyntaf llywodraeth y DG, er i ffigyrau amlwg yn y blaid Geidwadol addo y buasai yn digwydd o fewn y can diwrnod cyntaf.
Mae Plaid Cymru cyn hyn wedi beirniadu cynnwys Mesur Cymru am “wrthgilio ar gyfaddawd” wedi iddo anwybyddu llawer o’r argymhellion y cytunwyd arnynt gan Gomisiwn trawsbleidiol Silk.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Cyn yr etholiad, addawodd y blaid Geidwadol gyflwyno Mesur Cymru newydd yn ystod y can diwrnod cyntaf, ond eu gweithred gyntaf oedd gwneud tro pedol ar yr addewid hwn.
“Nawr fod gennym lywodraeth Geidwadol yng Nghymru heb fandad oddi wrth bobl yng Nghymru, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gryfhau’r setliad datganoli.
“Pleidleisiodd pobl Cymru yn llethol o blaid pleidiau sydd yn cefnogi datganoli, a dengys y polau piniwn fod awch am gymryd mwy o gyfrifoldeb dros ein materion ein hunain.
“Nid yw’n iawn felly i lywodraeth y DG geisio mygu hyn.
“Nid cenedl eilradd yw Cymru ac ni ddylai gael ei thrin felly.
"Ni ddylai’r ysgrifennydd Gwladol ddefnyddio’r modd y mae’n camddarllen canlyniadau’r etholiad fel cyfiawnhad dros gadarnhau setliad eilradd neu hyd yn oed drydedd radd i Gymru.”