Mwy o Newyddion

RSS Icon
12 Mai 2015

Aelod Seneddol newydd Plaid Cymru, Liz Saville Roberts, yn camu i lawr

Bydd trigolion Morfa Nefyn ac Edern yng Ngwynedd yn gweld newid yn eu cynrychiolydd cyngor sir, yn dilyn yr Etholiad Cyffredinol diweddar. Mae eu Cynghorydd Gwynedd, Liz Saville Roberts, yn dechrau ei swydd newydd fel Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yr wythnos hon.

Enillodd Liz Saville Roberts ei sedd gyda mwyafrif o 5,261 o bleidleisiau i’r Blaid, ac mae'n dilyn ôl traed AS profiadol, Elfyn Llwyd. Gwnaeth Elfyn Llwyd y penderfyniad i beidio â cheisio ei ail-ethol i’r rôl gan ymddeol wedi 23 mlynedd fel cynrychiolydd Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan.

Dywedodd Liz Saville Roberts: "Byddaf yn camu o’r neilltu fel Cynghorydd Ward Morfa Nefyn, Gwynedd yn dilyn fy nghyfarfod Cyngor Gwynedd llawn olaf ddydd Iau, 14 Mai. Mae’r wythnosau diwethaf wedi bod yn fwrlwm o weithgaredd, a dwi’n ddiolchgar iawn i'r tîm lleol o gefnogwyr Plaid Cymru ym Morfa Nefyn, Edern a Phen Llŷn am eu cefnogaeth gyson.

"Dwi wrth fy modd bod merch o'r un anian o Forfa Nefyn wedi ei dewis fel ymgeisydd Plaid Cymru i sefyll fel cynrychiolydd yn y Ward. Mae Siân Hughes, 33, Nyrs Anabledd Dysgu eisoes yn aelod gweithgar o'r gymuned leol ac mae wedi ei geni a'i magu yn y Ward.

"Mae Siân yn briod gyda theulu ifanc, yn llywodraethwraig yn Ysgol Edern ac mae'n gadeirydd pwyllgor Cymdeithas Rhieni ac Athrawon yr ysgol. Mae'n aelod o bwyllgorau Cae Chwarae Edern a Chanolfan Morfa Nefyn. Mae hi'n weithgar gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc Porthdinllaen a’r Cylch Meithrin felly mae ganddi ddiddordeb brwd mewn llawer o agweddau o’r gymuned wledig Gymreig hon. Dymunaf y gorau iddi, ac mi rof bob cefnogaeth posib iddi yn ei hymdrech i ddod yn gynrychiolydd sir lleol,” meddai Liz Saville Roberts.

Dywedodd Siân Hughes o Forfa Nefyn: "Bydd dilyn yn ôl troed Liz yn gamp â hanner, ond dwi’n edrych ymlaen at yr her, ac yn i wneud fy marc o fewn fy ardal. Dwi’n falch iawn o gael fy newis gan gangen Plaid Cymru yn Nefyn i sefyll fel ymgeisydd yn dilyn y digwyddiad hysting.

"Dwi'n edrych ymlaen at yr wythnosau nesaf o ymgyrchu yn fy mro enedigol. Morfa Nefyn ydi fy nghartref, ac mae'n agos at fy nghalon. Dwi’n edrych ymlaen at drafod materion lleol gyda phobl leol a rhoi fy enw ymlaen fel ymgeisydd Plaid Cymru.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yng Ngwynedd, y Cynghorydd Dyfed Edwards: "Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn cydweithio ac ymgeisydd newydd, Siân Hughes. Mae hi'n aelod uchel ei pharch o fewn ei chymuned ym Morfa Nefyn ac Edern. Edrychwn ymlaen at weithio gyda hi yn ei hymgyrch wrth gasglu cefnogaeth fel darpar gynrychiolydd y gymuned wledig hon yn Llŷn 

"Mae Morfa Nefyn ac Edern wedi dathlu llwyddiant ein Haelod Seneddol newydd, Liz Saville Roberts, ynghyd â thrigolion Dwyfor Meirionnydd, pobl Gwynedd a Chymru.

"Bydd Gwynedd ar ei cholled a Llundain yn elwa, ond rydym yn diolch i Liz am ei hagwedd strategol, ei doethineb a’i hymroddiad i'w etholwyr a phobl Gwynedd dros y blynyddoedd diwethaf fel Cynghorydd Sir. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â hi yn rhinwedd ei swydd newydd fel Aelod Seneddol Plaid Cymru,” meddai’r Cynghorydd Dyfed Edwards.

Yn ôl Liz Saville Roberts: "Dwi wedi cael 11 mlynedd wych fel Cynghorydd Sir dros Forfa Nefyn ac Edern, a dwi’n edrych ymlaen at gymryd fy ngham gwleidyddol nesaf fel eu cynrychiolydd ynghyd â phobl Dwyfor Meirionnydd yn San Steffan. Maent wedi rhoi eu ffydd ynof fi, ac mi weithiaf yn ddiwyd ar eu rhan yn Llundain.”

 

Rhannu |