Mwy o Newyddion
Plac glas Abertawe ar gyfer meistr crochenwaith y 19eg ganrif
Mae cyn-berchennog Crochendy hanesyddol Cambrian i gael ei anrhydeddu yn Abertawe.
Bydd plac glas yn cael ei ddadorchuddio i Lewis Weston Dillwyn, hefyd yn fotanegydd enwog, fis Gorffennaf y tu allan i Blas hanesyddol Sgeti.
Cyngor Abertawe sy'n gyfrifol am gynllun placiau glas y ddinas.
Ganwyd Dillwyn ym 1778. Dychwelodd ei dad, Crynwr o Bensylfania, i Brydain flwyddyn cyn cyfnod gwaethaf Philadelphia yn Rhyfel Annibyniaeth America. Ac yntau'n ymgyrchwr pybyr yn erbyn caethwasiaeth, teithiodd o gwmpas de Cymru a Lloegr yn ei waith ar gyfer y Pwyllgor yn erbyn Caethwasiaeth.
Bu Dillwyn, a fu farw ym 1855, yn goruchwylio cynhyrchu porslen enwog Abertawe yn ystod ei amser fel perchennog Crochendy Cambrian. Roedd parch mawr tuag ato am ei weithiau cyhoeddedig ar fotaneg a chregynneg, sef astudiaeth cregyn molwsg. Daeth Dillwyn yn Uchel Siryf Morgannwg ym 1818 a chafodd ei ethol yn AS dros Sir Forgannwg ym 1834. Prynodd Blas Sgeti ac fe'i hetholwyd yn Arglwydd Faer Abertawe ym 1839.
Roedd Dillwyn hefyd yn un o aelodau sefydlu Sefydliad Brenhinol De Cymru ac ef oedd llywydd cyntaf y sefydliad. Cyhoeddodd hanes byr am Abertawe ym 1840.
Meddai'r Cyng Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio: "Mae ein cynllun placiau glas cynyddol yn bwysig oherwydd ei fod yn nodi treftadaeth gyfoethog a diddorol Abertawe.
"Mae llawer o bobl â gwreiddiau o Abertawe wedi cyflawni pethau mawr dros amser, o lwyddiant yn y campau a cherddoriaeth i gymeradwyaeth fyd-eang mewn gwyddoniaeth a'r celfyddydau, felly mae'r placiau glas sydd wedi'u lleoli ar draws y ddinas yn addysgol ac yn llawn hwyl. Dyma'r 10fed plac i gael ei ddadorchuddio yn y ddwy flynedd ddiwethaf.
"Mae Lewis Weston Dillwyn yn gwbl haeddiannol o'r acolâd hwn - mae ei brofiad mewn busnes, botaneg a gwleidyddiaeth wedi'i wneud yn ffigur amlwg ymhlith ei gyfoedion. Bydd meibion, merched, digwyddiadau a lleoliadau yn Abertawe sydd wedi rhoi Abertawe ar y map dros amser yn cael eu hanrhydeddu yn y dyfodol wrth i ni ddathlu ein hanes cyfareddol."
Mae'r bobl eraill sydd wedi derbyn placiau glas yn ddiweddar yn Abertawe'n cynnwys canwr Badfinger, Pete Ham, ymgyrchydd dros hawliau menywod, Emily Phipps a'r cenhadwr Griffith John.