Mwy o Newyddion
Un o goed prydferthaf y byd yn blodeuo ym Mhlas Tan y Bwlch
Mae gwanwyn oer a chynnar ynghyd ag Ebrill braf a chynnes wedi achosi i un o'r coed prydferthaf yn y byd, sef y Goeden Hances Boced, y Davidia involucrata, i gynhyrchu arddangosfa ysblennydd o flodau, yng ngerddi Plas Tan y Bwlch, Maentwrog.
Pan fydd yn ei blodau, hon yn ôl llawer, yw coeden flodeuol brydferthaf y byd. Darganfuwyd y Goeden Hances Boced (neu’r Goeden Gadach Boced), yn tyfu'n wyllt yn Tsieina tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Anfonwyd yr hadau yn ôl i'r DU drwy’r casglwr planhigion Fictoraidd Ernest Wilson yn 1901 a phan flodeuodd ym Mhrydain am y tro cyntaf, ni allai meithrinfa bwysicaf y cyfnod, (meithrinfa Veitch o Chelsea a Chaerwysg) ymateb i’r galw am y planhigyn.
Planwyd un o'r coed Hances Boced cyntaf ym Mhrydain yng ngerddi Fictoraidd hardd Plas Tan y Bwlch, sef Canolfan Parc Cenedlaethol Eryri bellach, ar gyrion Maentwrog. Y goeden hon, un o’r mwyaf o’i bath yn y DU ac sy’n sefyll dros 50 troedfedd, sy’n llawn blodau ysblennydd ar hyn o bryd.
"Mae pob cangen yn llwythog o flodeulenni gwyn mawr sy'n siffrwd fel hancesi yn yr awel", meddai Pennaeth Busnes Plas Tan y Bwlch, Andrew Oughton. "Bûm yn gweithio yma ers dros 20 mlynedd a dydw i erioed wedi gweld y goeden mor doreithiog â hyn yn ei blodau. Mae’n gwbl syfrdanol."
Rhagwelir y bydd y goeden yn ei blodau tan ddiwedd y mis a bydd y gerddi ar agor bob dydd o 10:00-17:00 i ymwelwyr eu mwynhau.