Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mai 2015

Clwb Pêl-droed Bangor yn ddi-fwg

Yn ddiweddar mae Clwb Pêl-droed Bangor wedi dod yn faes chwaraeon cyntaf yng Ngwynedd i fod yn ‘Ddi Fwg’.

Bydd Clybiau Pêl-droed a Rygbi Porthmadog, Bethesda a Phwllheli yn dilyn Bangor yn agos i fabwysiadu statws ‘Di Fwg’.

Dywedodd Cynghorydd Mair Rowlands, Aelod Cabinet Gwynedd Iach, Cyngor Gwynedd: “Mae ysgyfaint iach yn rhydd o fwg yn bwysig i unrhyw chwaraeon. Mae’n wych fod Bangor, Porthmadog, Bethesda a Phwllheli yn cefnogi’r cynllun.

“Y nod yw annog amgylchedd glan di-fwg i holl wylwyr yn ogystal â lleihau sbwriel sigaréts.  Mae’r cynllun hefyd wedi ei ddylunio i sicrhau fod plant mewn amgylchedd di-fwg. Rydym yn gobeithio cydweithio gyda meysydd chwaraeon eraill yng Ngwynedd yn y dyfodol i fod yn ‘Ddi Fwg’.”

Am gymorth i roi’r gorau i ysmygu cysylltwch â ‘ Dim Smygu Cymru’ ar 0800 0852219 neu ymwelwch â’ch fferyllfa leol.

Rhannu |