Mwy o Newyddion
Arddangosfa Canmlwyddiant Sefydliad y Merched
Bydd cannoedd o aelodau Sefydliad y Merched (SYM) o bob cwr o Gymru yn ymgynnull ar Ynys Môn, man geni cangen gyntaf Prydeinig SYM, ar 16 a 17 Mai i ymweld ag Arddangosfa Canmlwyddiant SYM yng Ngwesty’r Bulkeley, Biwmares.
Yn portreadu 100 mlynedd o SYM, bydd yr arddangosfa yn cynnwys 13 panel 5 troedfedd x 3 troedfedd o faint wedi eu crefftio â llaw gan aelodau. Bydd pob panel yn arddangos cyfnod mewn hanes SYM. Bydd storïau digidol yn dal atgofion, agweddau, teimladau a phrofiadau aelodau SYM hefyd yn ffurfio rhan o’r arddangosfa ynghyd ag arddangosiadau 3 dimensiwn.
Dywed Ann Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru: “Mae’r Arddangosfa yn ffordd wych i Sefydliad y Merched yng Nghymru i gychwyn y dathliadau o 100 mlynedd o ysbrydoli merched, gan ddod a’r cyfraniad a’r dylanwad mae SYM wedi cael ar gymunedau a’r wlad dros y 100 mlynedd diwethaf yn fyw.
“Yn dilyn lansiad y paneli ar Ynys Môn, bydd yr arddangosfa yn teithio dros y wlad er mwyn i’r cyhoedd medru mwyhau a dysgu am hanes gyfoethog Sefydliad y Merched. Bydd yn cael ei harddangos yn Sioe Amaethyddol Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru a Chynhadledd Flynyddol FfCSYM-Cymru yn Neuadd Dewi Sant ym mis Medi."
Cafodd y paneli eu noddi gan NFU Cymru, NFU Mutual, FUW, Abakhan Fabrics, Commercial Christmas o Lanelli a’r Ashley Family Foundation.
Dywed Stephen James, Llywydd NFU Cymru: “Mae NFU Cymru yn falch o gynnig ei gefnogaeth i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched-Cymru ac estynnwn ein llongyfarchiadau diffuant i’r mudiad am gyrraedd ei ganmlwyddiant.
"Yn NFU Cymru rydym wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu dyfodol ein hardaloedd gwledig yma yng Nghymru a chroesawn y cyfle i gynnig cefnogaeth ariannol tuag at brosiect crefft mor ddiddorol sy’n portreadu hanes Sefydliad y Merched yng Nghymru.”