Mwy o Newyddion

RSS Icon
11 Mai 2015

Plaid Cymru’n galw ar 2000 o drigolion Penrhyndeudraeth i leisio barn

Mae Cynghorydd Plaid Cymru ym Mhenrhyndeudraeth yn galw ar y 2,000 o drigolion ym Mhenrhyndeudraeth i leisio’i barn ar y cynigion sy’n ymwneud ag is-raddio’r gwasanaeth post yn y pentref.

Yn ôl Cynghorydd Plaid Cymru, Gareth Thomas, mae Cyngor Tref Penrhyndeudraeth wedi ceisio gweithredu’n gyflym i godi ymwybyddiaeth bobl leol bod bygythiad i’r gwasanaeth a gynigir gan Swyddfa’r Post yn y pentref.

“Ar hyn o bryd, mae Swyddfa'r Post yn cael ei redeg o siop bapur newydd yn y pentref. Ond dan gynigion newydd yn ymgynghoriad Swyddfa’r Post, byddai’r gwasanaeth yn cael ei ad-leoli i’r siop Spar lleol a chynnig y gwasanaeth drwy un til.

“Mae hyn yn golygu mai dim ond parseli bach all gael eu pasio dan y drefn newydd, bydd yn fwy anodd talu biliau, ni fydd gwasanaeth National Savings & Insurance (ns&i) premium bonds ar gael, ni fydd yswiriant teithio ar gael, ni fydd gwasanaeth gwirio pasbort ar gael ac yn y blaen.

“Rydw i fel cynrychiolydd Penrhyn ar y Cyngor Sir yn gwrthwynebu’r newid yn llwyr ac mae Cyngor Tref Penrhyn hefyd yn gwrthwynebu’r is-raddio.

“Fel Cadeirydd Cyngor Tref Penrhyndeudraeth, rydym wedi pasio i gysylltu â phob unigolyn yn y pentref trwy lythyr i annog trigolion lleol i gofrestru eu gwrthwynebiad, a rhoi neges glir i Swyddfa’r Post ein bod yn awyddus i’r gwasanaeth sydd gennym barhau yn yr ardal.

“Ond gan ein bod ni wedi bod mewn cyfnod o Etholiad, doedd y Royal Mail methu dosbarthu’r llythyrau yma i’r trigolion lleol. Tydyn ni chwaith ddim wedi gallu cysylltu â’n Haelod Seneddol i’n cynorthwyo yn y gwaith o siarad â’r Swyddfa Post. Ac rydym wedi cael ateb negyddol gan Swyddfa’r Post i’n ymholiadau am ymestyn y cyfnod ymgynghori er tegwch i bobl leol. Maen nhw’n gwrthod rhoi mwy o amser i ni gasglu ymateb. Mae hi’n sefyllfa hurt!”

Mae’r Cynghorydd Gareth Thomas yn cwestiynnu dilysrwydd cynnal ymgynghoriad o’r fath yng ystod cyfnod purdah Etholiadol, yn arbennig o gofio mai Adain o Lywodraeth San Steffan yw Swyddfa’r Post.

“Rydym yn parhau mewn cyfnod o gynni cenedlaethol ac yn wynebu toriadau pellach i’n gwasanaethau. Mae gwasanaeth fel Swyddfa’r Post yn hollbwysig i bobl leol, boed yn rieni ifanc, yn bobl oedrannus, yn drigolion busnes y dref – rydym yn annog bobl i anfon neges glir ein bod yn gwrthwynebu is-raddio’r gwasanaeth,” eglura’r Cynghorydd Thomas.

Mae cyfle i bobl leol wrthwynebu’r cynigion gyda Swyddfa’r Post hyd 27 o Fai. Mae’r Cynghorydd Thomas wedi holi am estyniad i’r cyfnod ymgynghori.

“Dwi’n cwestiynu’n fawr amseru’r ymgynghoriad gan ein bod wedi bod mewn cyfnod etholiadol. Mae Swyddfa’r Post fel rhan o Adran y Llywodraeth yn holi am ymateb mewn cyfnod pan nad ydym wedi bod â chynrychiolaeth gan Aelod Seneddol. Mae’n ein rhoi ni mewn sefyllfa anodd iawn iawn,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas.

I ymateb cyn 27 o Fai, mae angen i drigolion ddefnyddio cod y gangen leol, 29660499 ac ymateb drwy’r wefan www.postofficeviews.co.uk, ebost: comments@postoffice.co.uk, ffonio: 03457 223344 neu anfon gair drwy’r post at FREEPOST Your Comments (dyma’r cyfeiriad llawn).

"Y pryderon eraill sydd wedi eu codi yw bod pobl fregus yn poeni am ddefnyddio gwasanaeth til mewn siop, heb unrhyw breifatrwydd, i drafod materion na disgresiwn wrth iddynt ymgymryd â thrafodion ariannol.

“Mae cwsmeriaid wedi bod yn pleidleisio gyda’u traed. Mae Swyddfa’r Post Penrhyndeudraeth yn cael ei ddefnyddio gan bobl Harlech, Tremadog, a Thalsarnau. Dyma bentrefi sydd eisoes wedi colli ei Swyddfa Bost neu mae’r gwasanaeth wedi cael ei is-raddio i siop Spar.

“Mae hyn yn dangos yn glir nad yw gwasanaeth heb ofod a staff pwrpasol yn cael ei gefnogi gan bobl leol. Erfyniwn felly ar reolwyr Swyddfa’r Post i ail ystyried y sefyllfa yma ym Mhenrhyndeudraeth,” meddai’r Cynghorydd Thomas.

Rhannu |