Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mai 2015

Ysgoloriaeth o fri i fyfyrwraig o Bwllheli

Myfyrwraig o Grŵp Llandrillo Menai sydd â’i bryd ar fod yn blismones sydd wedi ennill Ysgoloriaeth William Salesbury y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o £5,000 eleni.

Mae Emily May Boyman sy'n ddisgybl yng Ngholeg Meirion Dwyfor hefyd wedi ennill Ysgoloriaeth Teilyngdod gwerth £3,000 gan Brifysgol Bangor ar sail ei pherfformiad yn yr arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad.

Bwriad Emily o Bwllheli yw dilyn cwrs gradd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mangor fis Medi cyn mynd yn ei blaen i weithio gyda’r heddlu.

Wedi cyfnod o brofiad gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru, sylweddolodd Emily pa mor bwysig oedd y gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned wrth ymdrin â gwahanol sefyllfaoedd.

Er bod Emily yn dod o gartref di-Gymraeg, roedd o’r farn fod derbyn addysg cyfrwng Cymraeg wedi bod o fudd iddi ac roedd yn benderfynol o barhau i wneud hynny ar lefel addysg uwch.

‘‘Roeddwn yn falch fod y cwrs ar gael 100% trwy ‘r Gymraeg ac felly ‘n gymwys i dderbyn Ysgoloriaeth William Salesbury. Rwy’n mawr obeithio y bydd y cwrs yn rhoi sylfaen gref i mi fedru delio â heriau’r byd gwaith a dilyn gyrfa lwyddiannus gyda’r heddlu.’’

Ychwanegodd John Gwilym Jones, Cadeirydd Cronfa Genedlaethol William Salesbury: ‘‘Llongyfarchiadau i Emily ar ennill yr Ysgoloriaeth eleni. Yr oedd ei chymwysterau academaidd a’i hymroddiad i egwyddor addysg Gymraeg yn ei gwneud yn enillydd haeddiannol o blith nifer dda o ymgeiswyr disglair, ac yn un deilwng o’r ysbrydoliaeth a gawsom oll gan y diweddar Dr Meredydd Evans. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn ei gyrfa.’’

Dywedodd Delyth Roberts, Uwch Diwtor Lefel A: “Mae Emily yn alluog tŷ hwnt, ac yn haeddu bob clod. Mae’n arbennig o weithgar, ac mae pawb yn y coleg yn dymuno pob lwc iddi.”

Rhannu |