Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mai 2015

Bydd tîm cryf Plaid yn rhoi llais i Gymru yn San Steffan

Mae Leanne Wood wedi dweud y bydd y tim cryf o dri AS Plaid Cymru sydd wedi eu hethol yn rhoi llais cryf i Gymru yn San Steffan.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod cynnydd ym mhleidlais Plaid Cymru ledled Cymru yn dangos fod pobl yn edrych tuag at ddewis amgen i bleidiau sefydliadol Prydain.

Dywedodd Leanne Wood hefyd fod y blaid Lafur wedi methu cynnig dewis amgen credadwy i agenda doriadau adain dde y Toriaid.

Dywedodd Leanne Wood arweinydd Plaid Cymru: "Yn ystod yr ymgyrch hwn defnyddiodd Blaid Cymru bob cyfle i gyflwyno gweledigaeth amgen bositif o ddyfodol Cymru. Roedd disgwyl i ni golli dwy o'n tair sedd ar ddechrau'r ymgyrch ond yn y pen draw rydym wedi cynyddu ein mwyafrif yn y ddwy sedd honno, a chynyddu ein cyfran o'r bleidlais mewn mannau eraill.

"Bydd tim ASau Plaid Cymru yn gwneud yn siwr fod Cymru wrth galon y ddadl pob dydd o hyn allan.

"Rydym wedi ennill tir mewn mannau newydd megis Rhondda, Caerdydd, Pontypridd, Wrecsam a chymoedd gorllewinol, a bydd hyn yn ein rhoi mewn safle cadarn ar gyfer etholiad y Cynulliad fis Mai nesaf.

"Mae'r blaid Lafur wedi methu cynnig dewis amgen credadwy i agenda lymder greulon y blaid Geidwadol. Rydym yn disgwyl toriadau hyd yn oed gwaeth, mwy o lymder i'n cymunedau lleol - er gwaetha'r ffaith nad yw Cymru wedi rhoi mandad iddynt i wneud hynny. Dim ond Plaid Cymru sy'n cynnig dewis amgen positif.

"Bydd Plaid Cymru yn dal llywodraeth nesaf y DG i gyfrif a byddwn yn rhoi llais cryf i Gymru yn San Steffan."

Rhannu |