Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mai 2015

Cefnogaeth i Apêl Daeargryn Nepal

Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones gyda Kirsty Davies-Warner, Cadeirydd DEC Cymru, yn dangos cefnogaeth i Apêl Daeargryn Nepal y Pwyllgor Argyfyngau yng  Nghymru

Trawyd Nepal gan ddaeargryn oedd yn mesur 7.8 ar raddfa Richter ar ddydd Sadwrn 25 Ebrill; y daeargryn gwaethaf i daro'r ardal mewn dros 80 mlynedd. Roedd y difrod yn enbyd, ac mae bywydau pobl yno ar chwâl.

Mae pobl Cymru eisoes wedi codi swm anhygoel o £1.3 miliwn at yr achos, ac mae’r arian hwn yn galluogi gweithwyr dyngarol y Pwyllgor Argyfyngau yno i helpu gan ddarparu dŵr glân, bwyd a lloches i’r rhai sydd ei angen.

Mae dal amser i roi at yr achos trwy fynd i dec.org.uk, ffonio  0370 60 60 900 , neu anfon y gair SUPPORT at 70000 i gyfrannu £5. 

Rhannu |