Mwy o Newyddion
Rhyddhau cimychiaid yn lle rhai a laddwyd gan blaleiddiad
Rhyddhawyd oddeutu 600 o gimychiaid ifanc i afon ym Mhowys yn lle’r boblogaeth wreiddiol a ddioddefodd ar ôl achos o lygredd yn 2012.
Mae’r cimychiaid afon crafanc wen wedi eu magu yn Neorfa Cynrig, Cyfoeth Naturiol Cymru yn lle’r pysgod a laddwyd pan effeithiodd plaleiddiad ar ddarn 2 cilomedr o Afon Ennig yn Nhalgarth, ger Aberhonddu.
Canfuwyd rhywogaethau eraill fel pennau lletwad yn farw yn yr afon hefyd, ond y ffaith bod y cimychiaid wedi marw a achosodd y pryder mwyaf.
Roedd y cimwch afon crafanc wen, yr unig gimwch brodorol a geir ym Mhrydain, eisoes dan fygythiad o ganlyniad i afiechydon, newid hinsawdd, dirywiad mewn cynefin a chystadleuaeth gan y cimwch Americanaidd mwy ymosodol a gyflwynwyd ar gyfer eu bwyta ddiwedd y 70au a’r 80au.
Dywedodd Oliver Brown, Swyddog Magu Pysgod, Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym wedi rhyddhau 570 o gimychiaid ifanc un o isafonydd Ennig a bydd 1,000 o rai eraill yn cael eu rhyddhau’r flwyddyn nesaf yn lle’r rhai a laddwyd yn 2012.
“Cafodd y pysgod eu magu yn Uned Fagu Pysgod Cynrig, lle mae strategaeth cadwraeth cimychiaid yn bodoli ers 2009 ac yn amcanu i ddiogelu poblogaethau cyfredol o gimychiaid a sefydlu hafan ddiogel i’r rhywogaeth.”
Hyd yma mae mwy na 3,300 o gimychiaid wedi eu rhyddhau o’r uned, yn bennaf yng nghyffiniau Afon Gwy, ac mae cynlluniau arfaethedig i ryddhau rhagor yn nalgylch Afon Wysg ac ardaloedd penodol yng Ngorllewin Cymru.
Ychwanegodd Oliver: “Mae’r arwyddion cynnar yn galonogol ac mae cimychiaid a fagwyd yn y ddeorfa yn cael eu canfod yn fyw ac yn iach 15 mis ar ôl cael eu rhyddhau, ac eleni rydym yn cynnal rhagor o waith arolygu i gael gwell darlun o oroesiad a gwasgariad cimychiaid ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.
"Ac rydym hefyd yn gwella cynefinoedd afonydd ac ansawdd dŵr sy’n angenrheidiol i ffyniant y cimychiaid sy’n cael eu rhydau.
“Mae’r gwaith hwn yn bwysig gan fod arbenigwyr yn credu fod perygl gwirioneddol y gallai rhywogaeth y cimwch crafanc wen ddiflannu o dir mawr Prydain heb ymyriad, a hynny o fewn y 30 mlynedd nesaf.”