Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mai 2015

Arddangosfa dirluniau Amgueddfa Cymru yn agor heddiw yn Pensylvannia

Mae arddangosfa newydd gan Amgueddfa Cymru sy’n edrych ar ddatblygiad tirluniau Prydain dros bedair canrif wedi agor ddoe, yng Nghanolfan Gelf a Hanesyddol Frick yn Pittsburgh, Pensylvannia. Mae Pastures Green & Dark Satanic Mills: The British Passion for Landscape yn gyfle prin i gynulleidfaoedd yn yr Unol Daleithiau fwynhau’r genre hynod Brydeinig hon a bydd yr arddangosfa ar daith yn ymweld â tair dinas yn yr UDA dros y flwyddyn nesaf. Mae’r arddangosfa yn barod wedi bod yn Amgueddfa Gelf Norton yn West Palm beach, Florida dros y gaeaf.

Mae’r arddangosfa, a drefnwyd gan Amgueddfa Cymru mewn partneriaeth â Ffederasiwn Gelfyddydau America (AFA), yn cynnwys paentiadau, darluniau a ffotograffau dethol o gasgliad celf cenedlaethol Cymru. Fe’u dewiswyd gan Tim Barringer – Athro Hanes Celf Paul Mellon Prifysgol Yale, ac Oliver Fairclough – Ceidwad Celf Amgueddfa Cymru, a dyma fydd y tro cyntaf i’r mwyafrif gael eu gweld yn America.

Bydd Pastures Green & Dark Satanic Mills: The British Passion for Landscape yn teithio i dri lleoliad:

•        Canolfan Gelf a Hanesyddol Frick, Pittsburgh (7 Mai – 2 Awst 2015)

•        Amgueddfa Celfyddyd Cain Utah, Salt Lake City (27 Awst – 29 Tachwedd 2015)

•        Amgueddfa Gelf Prifysgol Princeton (23 Ionawr – 24 Ebrill 2016)

Mae’n arddangosfa sy’n adrodd stori sy’n dechrau yn y 1600au ac yn mynd ar daith drwy’r Chwyldro Diwydiannol a chelf y bedwaredd ganrif ar bymtheg at waith ôl-fodern ac ôl-ddiwydiannol y presennol.

Yn ogystal â dangos rhai o gampweithiau casgliad Amgueddfa Cymru, bydd yr arddangosfa hefyd yn taflu goleuni newydd ar ddatblygiad paentio tirluniau yng Nghymru ac ar gelf a diwylliant Prydain yn gyffredinol. Caiff y gweithiau eu rhannu’n chwe thema fydd yn pigo’r meddwl ac yn destun trafod. Ymhlith yr 80 a mwy o weithiau, mae paentiadau olew blaenllaw a gwaith ar bapur o gasgliadau darluniau, ffotograffau a lluniau dyfrlliw Amgueddfa Cymru.

Bydd Pastures Green & Dark Satanic Mills yn cynnwys gwaith nifer o artistiaid o Brydain a thramor a gafodd eu hysbrydoli gan dirlun yr ynys hon, yn eu plith Thomas Gainsborough, Joseph Wright of Derby, Richard Wilson, Augustus John, John Constable, J. M. W. Turner, Alfred Sisley, Claude Monet, ac Oskar Kokoschka.

Meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: “Mae’n bleser cyflwyno’r arddangosfa bwysig hon o gelf tirluniau Prydain mewn pedwar lleoliad yn UDA, gan roi cyfle i ymwelwyr weld y gweithiau gwych yma am y tro cyntaf.

“Dyma’r ail dro i Amgueddfa Cymru gydweithio â’r AFA, wedi taith hynod lwyddiannus Turner to Cezanne: Masterpieces from the Davies Collection drwy Ogledd America yn 2009-2010.

“Bydd y bartneriaeth ryngwladol hon yn gyfle i gynulleidfaoedd UDA i ddysgu mwy am baentio ym Mhrydain a thirlun Cymru drwy gyfrwng gweithiau dethol o gasgliad celf cenedlaethol Cymru. Gobeithiwn y bydd Pastures Green a’r cyhoeddusrwydd a ddaw yn ei sgil yn denu mwy o ymwelwyr o’r Unol Daleithiau yma i Gymru.”

Dywedodd Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydw i wrth fy modd y bydd yr arddangosfa fawr hon yn mynd ar daith i’r Unol Daleithiau. Mae ein cyrff celfyddydol a’n hamgueddfeydd yn gwneud llawer i godi proffil Cymru ym mhedwar ban, ac wrth adeiladu ar lwyddiant y daith ddiweddar o weithiau’r Chwiorydd Davies, bydd yr arddangosfa hon yn cyflwyno Cymru i gynulleidfa newydd.”

Rhannu |