Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mai 2015

Mwyafrif y Dem Rhydd yn syrthio yng Ngheredigion

Mae Mike Parker o Blaid Cymru wedi disgyn yn brin o gipio etholaeth Ceredigion yn yr Etholiad Cyffredinol.

Daliodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu gafael ar y sedd gyda mwyafrif llawer is, sef 3,067, sy’n ogwydd o 6.8% o’r Dem Rhydd i Blaid Cymru.

Meddai Mike Parker, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru: “Rwy’n llongyfarch Mark Williams ar ei fuddugoliaeth. Roedden ni’n gwybod fod gennym fynydd i’w ddringo, o ystyried fod y mwyafrif yn 2010 dros 8,000 o bleidleisiau. Ar adegau yn ystod yr ymgyrch roedden ni’n meddwl y gallem ni eu gwneud hi – ond roedden ni’n brin, yn rhannol oherwydd llif hwyr i’r dde trwy Brydain.

“Roedd yr ymgyrch hon yn un boeth, ac ar adegau roedd yn fwy digyfaddawd nag y byddwn erioed wedi ei ddychmygu. Ond cefais dderbyniad gwych gan bobl Ceredigion, ac rwy’ wedi mwynhau cwrdd â chymaint o bobl ar y stepen drws dros  ddwy flynedd ddiwethaf.

“Yn fy marn i mae’r 5 mlynedd o lywodraeth glymblaid wedi bod yn wael i Geredigion. Ceisiais gyflwyno agenda amgen o fuddsoddiad yn lle toriadau a llymder, ac rwy’n mawr obeithio y bydd y llywodraeth newydd yn talu mwy o sylw i ardaloedd fel rhain.

“Hoffwn dalu teyrnged i’r ugeiniau o wirfoddolwyr a helpodd fy ymgyrch. Dydy’r Blaid ddim yn dibynnu ar roddwyr ariannol mawr, ond ar bobl sy’n rhoi o’u hamser – mae’n fraint fod wedi gweithio gyda thîm mor weithgar.”

Dywedodd Mererid Jones, cadeirydd Plaid Cymru Ceredigion: “Wrth gwrs, mae’n siom na lwyddon ni i wneud digon i gipio’r sedd y tro hwn. Ond rydym yn hynod falch o’n hymyrch.

“Bu Mike Parker yn ymgeisydd gwych – gwleidydd o argyhoeddiad a brwdfrydedd – a ddeliodd gydag urddas mawr wrth i ymgyrchu negyddol gael ei daflu tuag ato.”

Rhannu |