Mwy o Newyddion
Rheolau Mewnfudo’r DU yn difetha cynlluniau priodas
Mae cynlluniau priodas cwpl wedi’u difetha wedi i’r priodfab gael ei anfon o’r wlad gan gorff mewnfudo’r DU.
Cafodd Gareth MacRae, sy’n wreiddiol o Seland Newydd, ei alltudio gan swyddogion mewnfudo'r wythnos hon. Mae hyn yn golygu fod Gareth bellach wedi’i wahardd rhag dod i mewn i’r DU. O ganlyniad i hyn, ni fydd Gareth yn gallu dychwelyd mewn pryd ar gyfer ei briodas sydd wedi’i threfnu eisoes ar gyfer mis Gorffennaf eleni.
Mae Gareth a'i ddyweddi Lliwen Gwyn Roberts oLanuwchllyn wedi bod gyda’i gilydd ers mwy na 5 mlynedd. Penderfynodd y pâr ddyweddïo'r llynedd, ac ers hynny mae Gareth a Lliwen wedi bod wrthi yn trefnu priodas ar gyfer dros 150 o’u teulu a'u ffrindiau yng Nghorwen. Mae teulu a ffrindiau’r pâr o Seland Newydd eisoes wedi archebu tocynnau a thalu am deithio i fynychu'r briodas yng Nghymru.
Cyfarfu Gareth, sy’n weithiwr rig olew a nwy profiadol, â Lliwen yn 2009 ac maent wedi byw gyda’i gilydd ers hynny gan rannu eu hamser rhwng Cymru a Seland Newydd. Mae’r ddau wedi gweithio yn y ddwy wlad ac wedi gwneud y ceisiadau fisas angenrheidiol heb drafferth bob tro.
Gyda chymorth eu teulu a’u ffrindiau, mae Gareth a Lliwen wedi ceisio apelio a thrafod yr achos gyda llysgenhaty Seland Newydd yn Llundain, ond yn anffodus, hyd yma, nid ydynt wedi llwyddo i wrthdroi’r penderfyniad.
Mae Lliwen wedi bod wrthi’n cysylltu gyda theulu a ffrindiau heddiw er mwyn rhoi gwybod iddynt am alltudiad Gareth a'u bod nhw’n gorfod diddymu cynlluniau’r briodas.
Dywedodd Lliwen: “Bu’n rhaid i mi ganslo’r diwrnod pwysicaf yn fy mywyd heddiw, rwy’n torri fy nghalon. Ein breuddwyd yw magu teulu yma yng Nghymru, ond mae’r freuddwyd yn bell iawn i ffwrdd heddiw. Yn hytrach nag edrych ymlaen at ddiwrnod fy mhriodas, all neb ddweud wrtha’i pryd gai weld Gareth eto.”
Dros y cyfnod anodd hwn, mae’r cwpl wedi derbyn cefnogaeth gan aelodau di-ri o’r gymuned ac maent yn ddiolchgar iawn am bob arwydd o gefnogaeth. Mae’r gymuned oll wedi synnu gan y penderfyniad – mae pawb yn gobeithio y bydd codi ymwybyddiaeth o’r anawsterau sy’n wynebu cyplau trawsffiniol a brwydr Gareth a Lliwen yn golygu rhywfaint o newid.
Mae Gareth a Lliwen bellach yn ymladd yn galed i geisio datrys hyn gyda’r Awdurdodau Prydeinig. Os all unrhyw un gynnig unrhyw gymorth neu arweiniad iddyn nhw, cysylltwch â nhw drwy e-bostio garethalliwen@hotmail.com