Mwy o Newyddion
Gall Fukushima fod yn waeth na Chernobyl
MAE arbenigwr ar effeithiau damweiniau niwclear ar iechyd pobl gyffredin ar draws y byd, yn credu y gallai digwyddiadau yn Japan ers y daeargryn a’r tswnami fis Mawrth, fod yn fwy dinistriol nag effeithiau damwain waetha’r byd cyn hynny.
Mae’r ymbelydredd sydd wedi gollwng o atomfa niwclear Fukushima yn Japan yn fwy sinistr na faint ollyngwyd o Chernobyl chwarter canrif yn ôl, meddai’r Dr Ian Fairlie, yr ymgynghorydd annibynnol ar ymbelydredd yn yr amgylchedd, sy’n teithio’r byd yn cyflwyno ei ystadegau ysgytwol ar effeithiau iechyd damweiniau o’r math.
Fo ydi awdur ‘Increased Leukaemias Near Nuclear Power Stations’. Mae’n siaradwr carismataidd iawn sy’n dadlau bod atomfeydd a thechnoleg niwclear yn eu hanfod yn beryglus – ar adegau o ryfel a heddwch.
Mewn cyfarfod ym Mangor ddydd Iau diwethaf (28 Ebrill), yn ystod wythnos oedd yn nodi chwarter canrif ers damwain Chernobyl ar 26 Ebrill, 1986, cyflwynodd yn ddi-flewyn ar dafod y farn fod damwain Fukushima yn waeth na Chernobyl. Wrth wneud hynny, trosglwyddodd y ffigyrau ynglyn â’r afiechydon sydd wedi eu cofnodi yn yr Wcraen a Belarws dros 25 mlynedd.
Dydi ffeithiau felly ddim, ar y cyfan, yn cael eu rhannu â’r cyhoedd, meddai, wrth ddweud hefyd fod yna dystiolaeth sy’n dangos fod lefelau uwch o gancrau solet a lwcemia o fewn 5km i unrhyw orsafoedd niwclear – hyd yn oed pan nad oes damweiniau’n cael eu cofnodi’n swyddogol. Mae hefyd o’r farn bod llywodraethau’n gyndyn o rannu gwybodaeth debyg gyda’r cyhoedd.
I ddarllen mwy CLICIWCH YMA