Mwy o Newyddion
Sgwâr newydd wedi'i glustnodi ar gyfer Ffordd y Brenin Abertawe
Mae'n bosib y caiff sgwâr newydd ei gyflwyno ar Ffordd y Brenin Abertawe i helpu i ddenu datblygwyr swyddfeydd a phreswylfeydd yno yn y dyfodol.
Byddai'r sgwâr yn addas i gerddwyr a gallai gael ei osod lle mae llain ganol y ffordd yng nghanol y ddinas ar hyn o bryd. Byddai man gwyrdd mawr yn ei ganol gyda llawer o goed, ardaloedd cyhoeddus a lleoedd i eistedd.
Yn ôl Cyngor Abertawe, mae gwelliannau amgylcheddol yn rhan annatod o'i gynlluniau i drawsnewid Ffordd y Brenin yn ardal gyflogaeth ac i roi hwb i nifer y bobl sy'n byw yng nghanol y ddinas ac yn gweithioyno.
Mae astudiaeth arbenigol i Ffordd y Brenin, sydd wedi bod ar waith ers peth amser, hefyd wedi dod i'r casgliad bod angen buddsoddiad sylweddol yng ngwedd a chynllun y ffordd er mwyn ei gwneud yn gynnig deniadol i ddatblygwyr swyddfeydd a phreswylfeydd yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd y cyngor yn chwilio am arian ar gyfer y cynllun gwella yn fuan.
Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Mae'n amlwg nad oes digon o bobl yn gweithio ac yn byw yng nghanol dinas Abertawe ar hyn o bryd i gynhyrchu nifer yr ymwelwyr a swm y gwario y mae eu hangen i gefnogi ein masnachwyr presennol ac i ddenu mwy o fuddsoddiad. 19% yw amcangyfrif cyflogaeth drefol Abertawe, ond mae'r ffigur ar gyfer dinasoedd cymharol eraill dros 30%.
"Bydd trawsnewid Ffordd y Brenin yn ardal gyflogaeth yn helpu Abertawe i gau'r bwlch ac adfywio cyfoeth canol y ddinas, ond mae cael buddsoddiad sylweddol yng ngwedd a naws yr ardal yn hanfodol os ydym am greu'r amgylchedd a fydd yn denu datblygwyr swyddfeydd a phreswylfeydd.
"Nid buddsoddwyr posib ac arbenigwyr yn unig sydd wedi bod yn dweud hyn wrthym am beth amser. Cafwyd adborth tebyg gan breswylwyr Abertawe yn ystod ein hymgynghoriad diweddar ar Fframwaith Strategol diwygiedig Canol y Ddinas; dogfen a fydd yn llywio adfywiad canol y ddinas dros y degawd nesaf.
"Mae'r rhain yn ddyddiau cynnar a'r her nesaf yw archwilio ffynonellau posib i ariannu'n syniadau, ond byddai sgwâr newydd yng nghalon Ffordd y Brenin yn helpu i greu amgylchedd a fyddai'n denu swyddi o safon uchel. Bydd hyn yn ychwanegu at gynlluniau presennol i ail-lasu rhannau mawr o'r ddinas wrth i ni ailddatblygu.
"Bydd rhaid i'n tîm cludiant weithio'n agos â gweithredwyr cludiant cyhoeddus hefyd i ystyried goblygiadau a datrysiadau posib ar gyfer llif traffig, ond mae'n syniad rydym yn benderfynol o'i archwilio'n gynhwysfawr."
Mae Cabinet Cyngor Abertawe eisoes wedi cymeradwyo'r bwriad i adfywio Ffordd y Brenin fel sail i gais blaenoriaeth yr awdurdod am arian isadeiledd Ewropeaidd yn y dyfodol.
Mae trafodaethau manwl hefyd wedi dechrau gyda'r datblygwyr sydd ar y rhestr fer i adfywio safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant. Mae Cyngor Abertawe yn gobeithio penodi partneriaid datblygu ar gyfer y ddau safle erbyn diwedd y flwyddyn.