Mwy o Newyddion
Canolfan dementia gwerth £7m yn gosod “meincnod” i’r DU
Mae hyrwyddwr dementia a benodwyd gan y Prif Weinidog David Cameron wedi datgan bod canolfan ragoriaeth newydd gwerth £7 miliwn yng Ngogledd Cymru yn gosod “meincnod” i weddill y DU.
Roedd yr Athro Martin Green wedi cael ei “syfrdanu” gan yr hyn a welodd yn ystod ymweliad â’r safle adeiladu lle mae’r ganolfan yn cael ei chodi i ddarparu gwasanaethau gofal dementia o’r radd flaenaf.
Cafodd ei dywys o amgylch yr adeilad gan Mario Kreft MBE, perchennog sefydliad gofal Parc Pendine.
Mae’r ganolfan yn cael ei chodi ar safle hen ysbyty cymunedol Bryn Seiont ac fe fydd yn creu dros 100 o swyddi newydd.
Y gobaith yw y bydd y ganolfan ddwyieithog yn agor ym mis Hydref ac y bydd hefyd yn darparu gofal seibiant a gofal dydd yn ogystal â’r 71 gwely ar gyfer y bobl fydd yn byw yno.
Mae cynlluniau ar droed hefyd i adeiladu 16 fflat gofal cydymaith fel rhan o ail gam y datblygiad.
Dywedodd yr Athro Green, sydd hefyd yn Brif Weithredwr Care England: “Mae’r cyfleuster hwn wedi creu argraff fawr arnaf. A dweud y gwir, rydw i wedi dod o’r Adran Iechyd yn Lloegr i gael golwg arno oherwydd rwy’n credu y bydd yn gosod meincnod newydd ar gyfer dementia ac yn wir ar gyfer gofal pobl hŷn.
"Mae’r adeilad wedi creu argraff wirioneddol arnaf ond yr hyn sydd wedi gadael argraff arnaf hefyd yw’r athroniaeth o bersonoli sy’n sail i’r ffordd y bydd y gwasanaeth hwn yn datblygu yn y dyfodol.
"Dementia yw’r her fwyaf sy’n ein hwynebu ond rwy’n credu mai’r hyn y bydd yn rhaid i ni ei wneud yw ailddiffinio sut rydym yn cefnogi pobl gyda dementia.
"Rhaid i ni wneud yn siŵr bod y gwasanaethau a ddarperir i bobl yn bersonol yn aml iawn a’n bod yn cynnal eu hannibyniaeth, eu rheolaeth a’u hurddas drwy’r amser ond ein bod ni’n gwneud hynny mewn amgylchedd diogel a gofalgar, ac rwy’n credu y bydd y cyfleuster newydd hwn yn cyflawni hynny i gyd.
Roedd Mr Kreft, sy’n gadeirydd ar Fforwm Gofal Cymru hefyd, wrth ei fodd bod yr Athro Green wedi rhoi o’i amser i ymweld â’r safle a gweld drosto’i hun sut oedd y ganolfan yn ffurfio.
Dywedodd Mr Kreft: “Rydym yn gweithio’n galed iawn er mwyn agor y drysau ym mis Hydref, a’r gobaith yw y bydd y cam cyntaf o 35 ystafell ar gael bryd hynny a’r bwriad wedyn yw agor cam dau ym mis Ionawr 2016.
“Wedyn, yn ystod y Gwanwyn nesaf, byddwn yn agor y fflatiau gofal cydymaith, sef rhywbeth newydd cyffrous a fydd yn galluogi cyplau i aros gyda’i gilydd ac mewn rhai achosion, i allu ailddechrau byw gyda’i gilydd.
"Bydd a wnelo Bryn Seiont Newydd i raddau helaeth â gofal dementia ond bydd yn ystyried hefyd y bobl hynny sydd ag anghenion iechyd meddwl arbennig oherwydd, yn anffodus, nid yw dementia’n rhywbeth sy’n dod ar ei ben ei hun.
"Bydd gennym ystod gyfan o wasanaethau, yn amrywio o wasanaethau preswyl a nyrsio 24 awr y dydd 7 diwrnod yr wythnos i wasanaethau seibiant gofal dydd.
"Byddwn hefyd yn cynnig gwasanaethau i’r teuluoedd hynny sydd angen cefnogaeth ar gyfer eu hanwyliaid yn ystod y nos a thros nos er mwyn iddynt allu parhau’n ofalwyr yn ystod y dydd.
"Rydym yn cael ein hannog yn fawr â’r broses recriwtio - rydym yn chwilio am beth rydym yn ei alw yn ‘bobl Pendine’. Rydym yn chwilio am bobl arbennig.
"I ddechrau, rydym wedi bod yn ceisio recriwtio ar gyfer swyddi uwch mewn swyddi rheoli, nyrsys cymwys ac ymarferwyr gofal cymwys ac wrth reswm rydym yn chwilio am gogyddion a gwŷr a gwragedd cadw tŷ ac yn y blaen.
"Ond teimlwn yn obeithiol iawn a hyderwn y bydd y broses recriwtio yn cychwyn o ddifrif yn ystod dechrau’r haf a byddwn yn dod â phobl i mewn sawl mis cyn hynny i gael hyfforddiant ac mae gennym ddull penodol yn y ffordd a weithiwn.
"Mae’n debyg iawn bod gennym un o’r rhaglenni hyfforddiant mwyaf pwrpasol sydd ar gael.
"Bydd rhaid i’r bobl rydym yn eu recriwtio wneud yn siŵr eu bod yn mabwysiadu ac yn credu yng ngwerthoedd Pendine.
"Yn ei hanfod, mae ein gwerthoedd yn darparu’r gofal gorau posibl, a gofal i bobl yn eu hiaith eu hunain oherwydd mae’n amlwg mai canolfan ddwyieithog fydd hon, rhywbeth sy’n eithriadol o bwysig i bobl gyda dementia.
"Rydym am i'r Bryn Seiont Newydd ddarparu gofal gwych a dyna sy’n cymell ein rhaglen gyfoethogi, ein rhaglen hyfforddiant a’n hathroniaeth.
"Ein nod yw hyrwyddo annibyniaeth ac ansawdd bywyd wedi’i gyfoethogi trwy’r chwe synnwyr gofal.
"Bydd y celfyddydau’n chwarae rhan bwysig o fywyd ym Mryn Seiont fel ag y maen nhw yn ein holl gartrefi eraill ac rydym yn awyddus i gefnogi mentrau celfyddydol yn y gymuned.
"Bu gennym arlunydd preswyl am dros 20 o flynyddoedd ac mae gennym hanes hir o bartneriaethau gyda cherddorfa fyd enwog yr Hallé ac Opera Cenedlaethol Cymru.
"O gofio hynny, rydym wedi noddi cyfres o raglenni misol o gyngherddau o dan yr enw TONIC yn Galeri yng Nghaernarfon, gan gynnig cyfle i bobl hŷn fwynhau’r celfyddydau.
"Mae gan Barc Pendine ymrwymiad i’r celfyddydau ac rydym yn gwybod am y manteision y gall hynny esgor arnynt i’n cleientiaid a’n preswylwyr,” ychwanegodd Mr Kreft.
Llun: Yr Athro Martin Green gyda Mario Kreft