Mwy o Newyddion

RSS Icon
08 Mai 2015

Trelars yn cyrraedd paradwys

Mae prif wneuthurwr trelars Ewrop bellach ym mharadwys.

Creodd cynnyrch Ifor Williams Trailers gymaint o argraff ar Ansari Baksh, rheolwr gyfarwyddwr yr Ansaf Trading Company, o ynysoedd Trinidad a Tobago, fel ei fod bellach yn ddosbarthwr i’r rhan honno o’r Caribî.

Daeth i gysylltiad ag Ifor Williams Trailers am y tro cyntaf pan roedd eisiau prynu offer newydd ar gyfer ei fusnes cynnal a chadw gerddi.

Roedd angen rhywbeth ar Ansari, yn nhref Barrackpore, i’w helpu i gludo’i gloddiwr bach, ei roler a’i dractor bach torri glaswellt o un swydd i’r llall.

Ar ôl ymchwilio i drelars nifer o wneuthurwyr cystadleuol, gan gynnwys rhai yn yr Unol Daleithiau, dewisodd Ansari un a gynhyrchwyd dros 4,000 o filltiroedd i ffwrdd yng Nghymru.

Roedd yn hoffi’r un gyntaf cymaint, fe brynodd un arall yn fuan wedi hynny – ac wedyn gwnaeth gais llwyddiannus i fod yn ddosbarthwr y cwmni i ynysoedd paradwys.

Yn ogystal â gwerthiant trwy rwydwaith o 50 o ddosbarthwyr yn y DU, mae’r trelars yn cael eu hallforio i bedwar ban byd gyda dosbarthwyr mor bell i ffwrdd ag Awstralia a Seland Newydd – heb sôn am hen weriniaeth Sofietaidd Georgia, Siapan ac Affrica.

Roedd Andrew Reece-Jones, Rheolwr Peirianneg Dylunio yn Ifor Williams Trailers, wrth ei fodd bod ganddyn nhw bellach ddosbarthwr newydd yn y Caribî.

Dywedodd: “Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym yn ei gynhyrchu yma ac rydym yn eithriadol o falch fod safon ein trelars yn cael ei gydnabod adref a thramor.

“Mae’n braf gwybod bod gan Ansari gymaint o barch at ein cwmni a’n trelars.”

Dechreuodd yr Ansaf Trading Company yn 2010, a chaiff ei redeg gan Ansari a’i wraig Safiyya a roddodd y gorau i’w swydd fel athrawes ysgol uwchradd er mwyn helpu wrth i’r busnes dyfu. 

Bellach gyda thîm o bedwar aelod o staff amser llawn a hyd at 10 aelod rhan amser, maen nhw’n arbenigo mewn gwasanaethau contractio cyffredinol, cynnal a chadw tir a rhenti cyfarpar.

Wrth ddisgrifio sut dechreuodd y busnes symud i gyfeiriad gwerthu trelars, dywedodd Ansari: “Rai blynyddoedd yn ôl, pe byddech yn gweld rhywun gyda chloddiwr bach, fyddech chi’n chwerthin ac yn dweud y gallai dau ddyn â rhaw yr un wneud y gwaith hwnnw.

“Ond mae cloddwyr bach wedi dod yn fwyfwy poblogaidd ar yr ynys yn ystod y blynyddoedd diwethaf a gwnaethom brynu un i Ansaf hyd yn oed.

“Roedd llogi tryc neu lori i gludo’r offer yn eithaf drud.

“Penderfynon ni y byddai cael ein trelar ein hunain i gludo’n hoffer yn ein galluogi i ddarparu’r gwasanaeth hwn am bris rhesymol i’r cwsmer.

“Mi wnaethon ni chwilio ar y rhyngrwyd i ddod o hyd i wneuthurwr gyda threlars a fyddai’n addas i’n marchnad. Cysyllton ni ag ambell i gwmni yn UDA, ond gwyddem y byddai rhai problemau’n dod i’r amlwg gyda threlars oedd yn cael eu cynhyrchu yno, gan gynnwys cludo mewn llong.

 “Mae trelars wedi’u creu yn UDA yn tueddu i fod yn hwy ac yn lletach, a fyddai’n cynyddu’r costau cludo ond yn golygu hefyd bod angen cerbyd halio mwy o faint arnoch a byddai’n anodd eu ffitio ar ein ffyrdd cul ar yr ynys.”

Ychwanegodd Ansari: “Yn 2013, aethon ni i’r DU i gwrdd â’n cyflenwyr a dechrau holi am y trelars oedd yn boblogaidd yn y DU. Yr un a argymhellwyd fwyaf oedd Ifor Williams Trailers.

“Mi wnaethon ni brynu’r rhai cyntaf yn 2014 gyda dau drelar pwrpas cyffredinol, sef GX126 a GX106.

“Gwerthwyd y GX106 i gwsmer oedd yn wynebu’r un costau symud uchel ar gyfer ei roler bach. Mi wnes i siarad gydag o fis yn ddiweddarach ac roedd yn hapus dros ben gyda’i archeb, gan ddweud bod y trelar eisoes wedi talu am ei hun.

“Cadwon ni’r GX126 i gludo ein hoffer ein hunain, ac mi wnaethon ni gysylltu ag Ifor Williams Trailers yn ddiweddar i wneud trefniadau ar gyfer ein hail archeb.

“Dyna sut y daethon ni’n ddosbarthwr iddynt yn Nhrinidad a Tobago.

“Alla i ddim bod yn hapusach â’n penderfyniad bob tro rwy’n defnyddio’n trelar GX126. Mae cynifer o nodweddion ar drelars Ifor Williams sy’n eu gwneud yn berffaith i’n marchnad ni.

“Y ddwy nodwedd bwysicaf yw’r maint cryno a’r pwysau ysgafn. Maen nhw’n gryno iawn ac yn hawdd iawn eu symud, ond yn ddigon mawr i ddal bron unrhyw offer bach sydd gennych”

“Mae’n bleser bod yn gysylltiedig ag Ifor Williams Trailers, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar ein perthynas gyda nhw dros y blynyddoedd.”

Cwmni arall a ddaeth o ben draw’r byd i brynu trelars Ifor Williams Trailers yw’r Retro Future Corporation sydd bron i 6,000 o filltiroedd i ffwrdd yn Saitama, Siapan.

Er ei fod yn arbenigo mewn ceffylau bridio, mae’n cynllunio ac yn rheoli seremonïau priodasol traddodiadol Siapaneaidd hefyd lle mae ceffylau wedi’u haddurno’n brydferth yn chwarae lle pwysig.

Esboniodd Satomi Sugiura, rheolwr gwerthiant a chyfrifeg, fod angen dau drelar ceffylau ar y cwmni at ddibenion y ddau faes hyn yn y busnes a dechreuodd chwilio am y modelau gorau y gallai eu canfod.

Dywedodd: “Gwelodd un o’n cyfarwyddwyr rhai o drelars Ifor Williams yn cael eu harddangos pan oedd yn ymweld ag Ewrop.

“Mi wnaethon ni ddewis trelars Ifor Williams yn hytrach na rhai’r gwneuthurwyr eraill ar ôl i rywfaint o astudio ac ymchwilio gofalus ddangos eu dealltwriaeth drylwyr o anghenion ceffylau.

“Mi wnaethon ni weld hefyd fod gan Ifor Williams system lwytho a dadlwytho arloesol ar gyfer trelars ceffylau.”

Ychwanegodd: “Rydym yn defnyddio’r trelars ar gyfer amrywiaeth o fusnesau, fel mynd â cheffylau i ymweld â phlant mewn ysgolion meithrin a mynychu digwyddiadau ceffylau.

“Rydym yn defnyddio ceffylau gyda chert ar gyfer seremonïau priodasol. Caiff y ceffylau eu haddurno i gyd-fynd â’r cert ac amgylchiadau’r briodas ac mae’r effaith yn drawiadol tu hwnt.”

Rhannu |