Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Ebrill 2015

Gwahodd ceisiadau am nawdd i gylchgronau Cymraeg

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gyhoeddi eu bod yn gwahodd ceisiadau am nawdd i ddarparu cylchgronau Cymraeg am y cyfnod rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2019.

Mae’r grant ar hyn o bryd yn cefnogi amrywiaeth o deitlau diddorol a’r gobaith yw gweld hyn yn parhau a datblygu dros gyfnod y drwydded nesaf.

"Mae hwn yn gyfnod diddorol i fod yn cyhoeddi cylchgronau Cymraeg," meddai Elwyn Jones, Prif Weithredwr, Cyngor Llyfrau Cymru. "Edrychwn ymlaen at weld sut mae’r cyhoeddiadau presennol yn gweld eu cylchgronau’n datblygu dros y tair blynedd nesa ac at weld pa syniadau am deitlau newydd a gyflwynir."

"Rydym newydd gynnal proses debyg gyda’r cylchgronau Saesneg," meddai Dr Lucy Thomas, Pennaeth Adran Grantiau’r Cyngor. ‘Cafwyd trafodaeth fywiog a chyflwynwyd nifer o syniadau newydd. Mae’n gyfnod diddorol i fod yn meddwl am ddatblygu eich cylchgrawn gyda heriau a chyfleoedd di-ri yn y berthynas rhwng y cylchgrawn print a’r byd digidol.’

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 2 Gorffennaf 2015.

Rhannu |