Mwy o Newyddion
Plaid Cymru am integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn llawn
Mae mireinio’r system Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhan hanfodol o gynlluniau Plaid Cymru i atal oedi cyn rhyddhau pobl i ofal o’r ysbyty, dywedodd ymgeisydd y blaid yng Ngheredigion, Mike Parker.
Dywedodd Mike Parker fod cynlluniau Plaid Cymru i integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn llawn hefyd yn rhyddhau mwy o adnoddau y gellir eu hail-fuddsoddi i wasanaeth iechyd cymunedol fel y gall pobl dderbyn gofal safonol mor agos i’w cartrefi ag sydd modd.
Dywedodd Plaid Cymru y bydd chwalu’r rhagfuriau sy’n bodoli rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lleihau rhestri aros ac yn cryfhau’r GIG.
Dywedodd ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion Mike Parker: “Pan fo gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithio’n dda gyda’i gilydd, mae cleifion yn cael y gofal a’r gefnogaeth y mae arnynt ei angen mor agos i’w cartrefi ag sydd modd bob cam o’r ffordd.
"Ond ar hyn o bryd, mae’r ffiniau mympwyol sy’n bodoli rhwng gwasanaethau yn arwain at oedi trosglwyddo i ofal, ac y mae diffyg gofal yn y gymuned yn aml yn golygu bod cleifion yn troi’n achosion brys am na allant fynd at y gofal angenrheidiol ynghynt.
“Bu Gofal Cymdeithasol yn hanesyddol yn berthynas dlawd i iechyd, heb feddu ar yr un statws. Mae hyn wedi ei wneud yn darged hawdd i doriadau, ond y cyfan wnaeth hyn oedd arwain at fwy o bwysau ar y gwasanaeth iechyd.
“Mae Plaid Cymru eisiau chwalu’r rhagfuriau diangen hyn fel y gallwn fireinio’r gwasanaeth a rhoi i gleifion y gofal cyson mae arnynt ei angen.
"Trwy integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol gallwn ymdrin â’r problemau hyn, rhyddhau mwy o adnoddau i’w buddsoddi mewn gwasanaethau iechyd cymunedol, a gwneud yn sicr fod cleifion yn derbyn gofal cyson a chefnogaeth bob cam o’r ffordd.”