Mwy o Newyddion
Enillydd Oscar yn canmol y diwydiant ffilm yng Nghymru
Mae Ryszard Lenczewski, Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ar ffilm a enillodd wobr Oscar eleni, wedi canmol y diwydiant ffilmiau yng Nghymru am hybu ei yrfa.
Ddeunaw mlynedd yn ôl, fe gydweithiodd Ryszard â Peter Edwards, cyfarwyddwr ffilm sy'n hanu o Sir y Fflint, ar y ddrama Pum Cynnig i Gymro. Ac eleni, Ryszard oedd y Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth ar gyfer y ffilm 'Ida', a enillodd y wobr am y ffilm dramor orau yng ngwobrau’r Oscars. Dyma'r ffilm Bwylaidd gyntaf i ennill y wobr.
Mae S4C yn ail-ddangos y gyfres fu Ryszard yn ymwneud â hi - Pum Cynnig i Gymro bob nos Sul am 9.00. Caiff yr ail raglen yn y gyfres o bedair ei darlledu ddydd Sul yma, 3 Mai, gyda'r rhaglen gyntaf yn y gyfres ar gael ar wasanaeth ar alw S4C, Clic (Isdeitlau Saesneg ar gael).
"Mwynheuais weithio â Peter Edwards - dydw i erioed wedi gweithio â chyfarwyddwr mor drwyadl a threfnus ag o," dywed Ryszard. "Roedd o bob amser wedi paratoi'n ofalus ar gyfer diwrnod o ffilmio, ac yn gallu addasu'n gyflym i wahanol sefyllfaoedd, nad oedd yn bosibl eu darogan."
Roedd y gyfres ddrama yn gyd-gynhyrchiad arloesol rhwng S4C, cwmni cynhyrchu Lluniau Lliw a chwmni TVP, cynhyrchwyr teledu yng Ngwlad Pwyl. Stori serch yn ystod yr Ail Ryfel Byd yw Pum Cynnig i Gymro, wedi ei seilio yng Ngwlad Pwyl mae'r prif gymeriad John yn dianc o'r carchar yng Ngwlad Pwyl bump o weithiau.
Roedd y ffilm antur yn seiliedig ar hunangofiant yr awdur John Elwyn Jones, a oedd yn hawlio'r un teitl.
Roedd Ryzard wedi gweithio ar gynyrchiadau Almaeneg a Phwyleg cyn cydweithio ar Pum Cynnig i Gymro, ond nid oedd erioed wedi gweithio â chynhyrchwyro'r Deyrnas Unedig o'r blaen,
"Fe gyflwynodd y ddrama hon fi i'r farchnad Brydeinig, a chefais brofiadau hyfryd yn creu'r ffilm."
Darlledwyd y gyfres ddrama gynhyrfus am y tro cyntaf yn 1998, gyda Huw Garmon yn actio John, ac actores o Wlad Pwyl, Anna Wojcikicwicz yn actio ei gariad Celinka. Roedd nifer o actorion amlwg o Gymru yn rhan o'r cynhyrchiad yn cynnwys Mark Lewis Jones ac Alun ap Brinley. Gellir clywed pum iaith yn y cynhyrchiad, Almaeneg, Cymraeg, Pwyleg, Saesneg a Ffrangeg.
"Dydw i ddim yn cofio unrhyw broblemau gyda ffilmio drwy gyfrwng sawl iaith - dw i wir yn mwynhau sŵn yr iaith Gymraeg. Ac roeddwn yn edmygwr mawr o genedlaetholdeb byw'r Cymry, nid oedd dim byd ffug yn ei chylch."
Cyfarwyddwr Pum Cynnig i Gymro oedd Peter Edwards, a doedd hi ddim yn syndod i Peter bod Ryszard wedi ennill Oscar.
"Roedd gweithio gyda Ryszard yn brofiad gwych, roeddech chi'n gweld crefftwr arbennig wrth ei waith. Ar y pryd, roedd o wedi ennyn cymaint o brofiad yn niwydiant ffilm yr Almaen a Gwlad Pwyl. Mae'r dyn yn artist, roedd ganddo ddull ei hunan, ac roedd o'n codi safon ein gwaith ni i gyd."
Wedi ei fagu yng Nghilcain, Sir y Fflint - ond bellach yn byw yng Nghaerdydd ers 40 mlynedd cafodd y cyfarwyddwr profiadol brofiad bythgofiadwy'n ffilmio Pum Cynnig i Gymro yng Ngwlad Pwyl.
"Mae ffordd Gwlad Pwyl o weithio yn wahanol, a blaengar iawn. Roedden nhw'n ffilmio yn y ffurf Ewropeaidd, oedd yn drawiadol iawn i mi ar y pryd. Roedd hi'n gyfres gyffrous, ac wrth ffilmio yng Ngwlad Pwyl roedd hi'n ddiddorol gweld pa mor berthnasol yw'r ddrama heddiw.
"Roedd sawl un ohonyn nhw wedi gweld yr erchyllterau ddigwyddodd yng Ngwlad Pwyl, rhai wedi eu treisio, nifer wedi colli aelodau o'r teulu, a rhai wedi colli eu tai yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd hi'n brofiad bythgofiadwy yn fy mywyd i fynd yno, ac roedd gen i fwy o edmygedd o bobl Wlad Pwyl."