Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Ebrill 2015

Trafodaethau'n dechrau â datblygwyr posib canol y ddinas

Mae trafodaethau manwl bellach wedi dechrau â'r cwmnïau a roddwyd ar y rhestr fer ar gyfer adfywio canol dinas Abertawe.

Mae Cyngor Abertawe wedi cynnal trafodaethau cychwynnol â chynrychiolwyr o bob un o'r pum cais i ailddatblygu safleoedd y Ganolfan Ddinesig a Dewi Sant a roddwyd ar y rhestr fer.

Cynhelir cyfarfodydd â'r rhain bob pythefnos o hyn ymlaen cyn y gofynnir i'r cwmnïau gyflwyno cynlluniau ffurfiol tuag at ddiwedd mis Gorffennaf.

Yna bydd Cyngor Abertawe yn ystyried y ceisiadau terfynol yn fanwl cyn penodi partneriaid datblygu erbyn diwedd y flwyddyn.

Meddai'r Cyng. Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, "Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cael canol dinas bywiog a defnydd cymysg i drigolion Abertawe, ac rydym yn awyddus iawn i gyflawni hyn.

"Ddiwedd mis Ionawr y gwnaethom farchnata'r ddau safle datblygu, ond mae cynnydd arwyddocaol eisoes yn cael ei wneud. Bydd y cyfarfodydd bob pythefnos â chynrychiolwyr o'r pum cais a gyrhaeddodd ein rhestr fer yn ein galluogi i archwilio eu syniadau i wireddu'n cynigion amlinellol ar gyfer y ddau safle er lles preswylwyr a busnesau Abertawe yn ogystal ag ymwelwyr â'r ddinas. Bydd hyn yn cynnwys eu syniadau ar y ffordd orau i gysylltu safle Dewi Sant â safle'r Ganolfan Ddinesig a argymhellwyd fel y prif safle o statws blaenoriaeth cenedlaethol Cymreig mewn adroddiad a luniwyd ar gyfer bwrdd Dinas-Ranbarth Bae Abertawe.

"Mae ein rhestr fer yn cynnwys cydbwysedd da rhwng timau datblygu rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn benderfynol o benodi'r partneriaid datblygu gorau un i helpu i ddechrau gwaith adfywio a fydd yn gwneud y mwyaf o gryfderau unigryw Abertawe ac yn sicrhau lleoliad canol y ddinas fel ysgogwr economaidd allweddol ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn ei gyfanrwydd."

Cynigir cyrchfan hamdden a manwerthu ar gyfer safle Dewi Sant a fyddai'n cyfuno sgwâr cyhoeddus newydd â siopau, bwytai, sinema a datblygiad swyddfa newydd.  Mae maes parcio aml-lawr yn cael ei gynnig ar gyfer safle maes parcio presennol yr LC a fyddai'n cynnwys cyfleoedd ar gyfer datblygiad masnachol.

Mae cynigion amlinellol ar gyfer safle'r Ganolfan Ddinesig yn cynnwys datblygiadau twristiaeth nodedig a mannau cyhoeddus o safon. Mae Prifysgol Abertawe'n archwilio i'r potensial am greu canolfan ymchwil a datblygu ynni dŵr ar y safle a fyddai'n cynnwys acwariwm eiconig.

Rhannu |