Mwy o Newyddion

RSS Icon
30 Ebrill 2015

Leon yn ceisio dod o hyd i sêr Rho 5

Mae chwaraewr canol cae Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe wedi cofrestru i arwain pedwaredd flwyddyn Gwobrau Rho 5 sydd yn anrhydeddu pobl ifanc sydd wedi goresgyn adfyd, neu sydd wedi gwneud eu cymunedau'n falch ohonynt.

Arweinir y gwobrau gan Gyngor Abertawe , fe'u noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe ac fe'u cefnogir gan fusnesau a sefydliadau ar draws y ddinas.

Meddai Leon, "Drwy geisio fod y gorau a thrwy weithio'n galed, mae pobl ifanc yn ysbrydoliaeth i eraill ac maent yn haeddu cydnabyddiaeth. Maent yn glod nid yn unig i'w hunain ond hefyd i'w cymunedau.

"Rwyf wrth fy modd fy mod yn Llysgennad Gwobrau Rho 5 eto eleni ac rwy'n gofyn am gymorth pawb yn Abertawe i wneud gwobrau eleni'n llwyddiant ysgubol.

"Peidiwch â gadael i berson ifanc teilwng, yr ydych yn ei adnabod, golli allan. Ewch ar-lein i www.abertawe.gov.uk/article/6921/Gwobrau-Hi-5 i enwebu."

Eleni mae'n haws nag erioed i enwebu person ifanc am wobr Rho 5 gan fod popeth sydd ei angen arnoch ar gael ar-lein. Nid oes rhaid i enwebeion fod yn gymwys ar gyfer categori penodol bellach. Yr unig beth y mae'n rhaid i enwebwyr ei wneud yw dweud pam y dylai'r person y maent yn ei enwebu dderbyn Gwobr Rho 5 - beth bynnag yw'r rheswm. Bydd gwobrau terfynol yr enillwyr yn cael eu dylunio'n unigryw i bob enwebai. Bydd pawb sy'n cael ei enwebu'n cael ei gydnabod ac yn derbyn tystysgrif.

John Hayes a enillodd Wobr Rho 5 y Llysgennad Leon Britton, am beidio â gadael i'w anawsterau dysgu ei ddiffinio a thrwy wneud ei ddinas yn falch drwy gynrychioli Tîm y DU yn y Gemau Olympaidd Arbennig yn Rwsia.

Dywedodd Jacinta, ei fam, a enwebodd ef, "Roeddwn yn chwilio am ffordd o ddweud wrth John ba mor wych oedd ef a pha mor falch o'i gyflawniadau oeddwn i, ond hefyd i ddangos i bawb sut y gall pobl ifanc ag anableddau wireddu eu breuddwydion os ydynt yn benderfynol o lwyddo.

Dywedodd John, sy'n gefnogwr mawr o'r Elyrch, "Nid oeddwn byth yn credu y byddwn yn ennill, ac roedd derbyn y newyddion fy mod wedi ennill yn deimlad gwych. Hyd yn oed yn well na hynny, derbyniais wobrau gwych eraill gan gynnwys hyfforddiant gyda'r Elyrch."

Mae Gwobrau Rho 5 ar agor i unrhyw blentyn neu berson ifanc neu grŵp mewn tair ystod oedran - o dan 13 oed, 19 oed ac iau neu rhwng 20 a 25 oed. Mae'n rhaid iddo fod yn breswylydd yn Abertawe, yn derbyn ei addysg yma neu'n derbyn cefnogaeth yma.

Mae'r beirniaid yn chwilio am enghreifftiau o'r unigolion neu'r grwpiau hynny sy'n ceisio cyrraedd nodau personol neu wella eu cymunedau a thrwy wneud hynny maent yn ysbrydoli eraill.

Noddir Gwobrau Rho 5 gan Goleg Gŵyr Abertawe, Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe, Gwasanaethau Amgylcheddol Stenor, Swyddfa'r Arglwydd Faer, Cymdeithas Adeiladu Abertawe ac fe'u cefnogir gan Glwb Rotari Abertawe a The Wave.

Gallwch ledaenu'r neges ar Facebook neu Twitter trwy ddefnyddio #gwobraurho5 neu lawrlwytho ffurflenni enwebu yn www.abertawe.gov.uk/article/6921/Gwobrau-Hi-5

Rhannu |