Mwy o Newyddion
Lawrence o Arabia: o Dremadog i’r Dwyrain Canol
BYDD pentref yng Ngwynedd yn cofio gŵr enwoca’r fro ar union ddyddiad ei farwolaeth 80 mlynedd yn ôl.
Bu farw Thomas Edward Lawrence yn Lloegr ar Fai 19, 1935. Ond yn Nhremadog ym 1888 y ganed Lawrence o Arabia a ddaeth i amlygrwydd am arwain Gwrthryfel yr Arabiaid yn erbyn Byddin y Twrciaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
“Mae cofio marwolaeth T E Lawrence yn gyfle gwerthfawr i ail-gydio’n y cysylltiad agos rhwng Tremadog â dyn o’r pentref ddaeth i enwogrwydd byd-eang am ei anturiaethau’n y Dwyrain Canol yn ogystal ag sm ei waith llenyddol yn ddiweddarach,” meddai Carl Borum, cyd-berchennog Tŷ Lawrence – man geni Lawrence o Arabia.
Cymro enwog arall o oes arall fydd yn arwain y cofio ffurfiol a gynhelir am 11.00 o’r gloch fore Mawrth, 19 Mai, 2015. Bydd Simon Weston OBE yn dadorchuddio mainc goed er cof yn Nhŷ Lawrence. Bydd y tŷ’n agored i’r cyhoedd tan 2.00 o’r gloch ar y dydd gan gynnig cyfle prin i weld “maquette” o gerflun efydd maint cyflawn arfaethedig o Lawrence gan y cerflunydd enwog, David Williams-Ellis.
Am hanner dydd bydd yr achlysur yn symud i Hen Eglwys y Santes Fair gerllaw ar gyfer lansio llyfr newydd sy’n adrodd, am y tro cyntaf, gysylltiad y môr â stori chwedlonol Lawrence. Awdur T E Lawrence and the Red Sea Patrol yw John Johnson Allen
Bydd digwyddiadau’r cofio, fodd bynnag, yn dechrau am 7.00 o’r gloch nos Lun, Mai 18, pan draddodir darlith Gymraeg ar fywyd Lawrence gan gyn Ddeon Adran y Celfyddydau Coleg Prifysgol Bangor, yr hanesydd adnabyddus Bob Morris.
Dilynnir y ddarlith, a gynhelir yn yr Institiwt Tremadog, gyda dangos rhaglen deledu a gynhyrchwyd yn 2007 ar fywyd a chyfnod Lawrence o Arabia.
“Mae’n argoeli y cawn ni achlysur fydd yn aros yn y cof ac yn gyfle gwych i hoelio sylw’r byd ar Dremadog,” meddai’r cynghorydd lleol, Alwyn Gruffydd.
“Mae hefyd yn gyfle i ddathlu hanes unigryw’r pentref ac o bosib yn gyfie i weld os oes gan brofiadau Lawrence yn ystod ei oes wersi i ni sy’n rhannu’r byd cythryblus hwn heddiw."