Mwy o Newyddion

RSS Icon
24 Ebrill 2015

Ras cychod dreigiau i greu sblash fawr i gronfa canser Irfon

Mae ras cychod dreigiau Tsieineaidd yn cael ei threfnu i hybu ymgyrch codi arian a sefydlwyd gan Irfon Williams, y dioddefwr canser sydd wedi ysbrydoli llawer.

Y gobaith yw y bydd timau o fyd busnes yn cymryd rhan yn y ras a fydd yn cael ei chynnal yn Sioe Gychod Cymru Gyfan ym Mhwllheli ar ddydd Sul, 10 Mai, sef diwrnod olaf y digwyddiad tridiau o hyd.

Bydd y cychod pren yn cael eu symud trwy’r dŵr gan dimau o 16 rhwyfwr.

Ar ôl cael diagnosis o ganser y coluddyn, sefydlodd Irfon Williams, sy’n dad i bump o blant, a’i deulu ymgyrch #teamirfon drwy elusen GIG Gogledd Cymru, Awyr Las, gyda’r nod o godi £20,000 i gefnogi Uned Alaw yn Ysbyty Gwynedd.

Cyrhaeddodd Irfon, o Fangor, y penawdau ar ôl iddo gael ei orfodi i symud i Loegr er mwyn cael cwrs tri mis o’r cyffur Cetuximab a allai ymestyn ei fywyd.

Y gobaith yw y bydd her elusen gorfforaethol rasio cychod dreigiau yn rhoi hwb i ymgyrch #teamirfon, sydd, ar ôl codi bron i £50,000, eisoes wedi curo’r targed codi arian gwreiddiol o £20,000.

Yn ôl Davina Carey-Evans, trefnydd Sioe Gychod Cymru Gyfan, cafodd ei hysbrydoli gan ddewrder a phenderfyniad syfrdanol Irfon.

Meddai: “Mae rasys cychod dreigiau yn llawer iawn o hwyl ac nid yw rhyw yn rhwystr o gwbl. Gall merched gystadlu’n gyfartal â dynion a gobeithiwn y bydd y rhan fwyaf o gychod yn cynnwys criwiau rhyw cymysg.

“Rwy’n gobeithio y gallwn ddod o hyd i 15 busnes i gymryd yr her am £300 y tîm a fydd yn talu am gost y cychod dreigiau, y timau diogelwch ac yn y blaen.”

“Bydd aelodau’r tîm, sy’n cynnwys gweithwyr, eu teuluoedd a’u ffrindiau, yn cael nawdd personol gyda’r arian a godwyd yn mynd i ymgyrch #teamirfon.

“A chydag 16 o rwyfwyr i bob cwch yn ogystal â drymiwr gallai hynny fod yn swm sylweddol o arian a fydd yn rhoi hwb enfawr a chroesawgar i’r ymgyrch.

“Wrth reswm, os oes gan fusnes elusen benodol maen nhw’n ei chefnogi ac eisiau i rywfaint o’r arian a godwyd fynd i’r elusen benodol honno, byddai hynny’n gwbl dderbyniol.”    

Meddai Irfon Williams: Nid oes a wnelo’r ymgyrch â chodi arian i ymchwil canser – mae’n ymwneud â helpu pobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser ac yn benodol y rhai a effeithiwyd gan iselder.

“Roeddwn i’n cael triniaeth yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor ond nid yw’r GIG yn ariannu hyfforddiant mewn delio ag iselder. Ond y ffaith amdani yw bod 80% o ddynion sydd wedi cael diagnosis canser yn dioddef o iselder hefyd, gan fod 50% o’r holl ddioddefwyr canser yn dioddef o’r cyflwr.

“Mae merched i weld yn gallu ymdopi’n well gyda’r diagnosis na dynion, efallai am eu bod yn well am fynegi eu hemosiynau.”

Dywedodd Irfon, sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl fel Rheolwr Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed yng Ngogledd Cymru: “Dw i am gefnogi a helpu dioddefwyr canser lleol yng Ngogledd Cymru.

“Mae’r arian a godwyd trwy ymgyrch #teamirfon yn helpu i dalu am wigiau a phenwisgoedd i ferched sy’n colli eu gwallt ar ôl cemotherapi.

“Yn ogystal, mae’n helpu i ddarparu therapïau cyflenwol fel adweitheg a thylino therapiwtig, a gwasanaethau cynghori i gleifion sy’n cael eu trin yn Uned Alaw. Mae’r holl bethau hyn yn mynd y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.

“Rwy’n gwybod y gall y gwasanaethau ychwanegol pwysig hyn, a ariennir trwy roddion, helpu i leihau’r effaith y mae canser yn ei gael ar iechyd meddwl cleifion.

“Bydd y ras cychod dreigiau yn Sioe Gychod Cymru Gyfan yn achlysur gwych a fydd gobeithio yn codi swm enfawr o arian er mwyn mynd at gefnogi’n hapêl a helpu cleifion canser di-ri sy’n cael eu trin yn Uned Alaw yn Ysbyty Gwynedd.

“Byddwn yn annog cynifer o gwmnïau a busnesau â phosibl o bob cwr o Gymru i gofrestru a rhoi cynnig arni. Mae’n addo bod yn ddigwyddiad gwirioneddol liwgar, egnïol a hwyliog.”

Yn ôl Irfon, bydd yn croesawu rhoi sylw i rywbeth oddi wrth ei drafferthion ei hun.

Dywedodd: “Cefais wybod bod gen i ganser y coluddyn y llynedd ac mae bellach wedi lledu i’r iau. Rwyf wedi bod yn cael cemotherapi ond roedd angen cwrs tri mis o Cetuximab ochr yn ochr â’r driniaeth.

“Cyfle bach iawn sydd yno i gael iachâd ond o leiaf mi fydd yn ymestyn fy mywyd. Rydw i’n obeithiol drwy’r amser ac yn ceisio cadw’n gadarnhaol. Hanner llawn ac nid hanner gwag yw’r gwydr bob amser yn fy nhyb i.

“Rydw i wedi bod yn aros yng nghartref perthynas i mi yn Ellesmere Port er mwyn i mi allu cael triniaeth Cetuximab gan ei fod ar gael yn Lloegr. Loteri cod post yw hi mae arnaf ofn. Rydym hefyd wedi dechrau ymgyrch newydd o’r enw #HawliFyw neu #FightingChance.

“Ymgyrch yw #HawliFyw sy’n galw am gefnogaeth drawsbleidiol i newid polisi Llywodraeth Cymru a sicrhau bod dros 70 o driniaethau canser targedig, sy’n cynnwys cyffuriau a thechnegau radiotherapi arbenigol, ar gael yng Nghymru.”

Mae Sioe Gychod Cymru Gyfan, sydd bellach yn ei thrydedd flwyddyn, yn ŵyl sy’n arddangos gweithgareddau seiliedig ar ddŵr.

Bydd gan y digwyddiad tridiau o hyd a gynhelir rhwng dydd Gwener, 8 Mai a dydd Sul, 10 Mai ystod enfawr o arddangoswyr, yn arddangos digwyddiadau a gweithgareddau ac mae’n ŵyl allweddol i unrhyw berchennog cwch, pobl sy’n caru chwaraeon dŵr neu deuluoedd sy’n chwilio am ddiwrnod allan penigamp.

Dywedodd Davina Carey-Evans, Rheolwr Gyfarwyddwr Wales Watersports International sy’n cynnal Sioe Gychod Cymru Gyfan: “Bydd gennym ystod hyd yn oed fwy o gychod i’w gweld eleni gyda phopeth o gychod moethus o’r radd flaenaf i Sealeg sef cwch ar olwynion sy’n gallu cael ei yrru ar y traeth, ynghyd â chychod wedi eu hadeiladu â llaw, cychod y gallwch chi eu plygu a’u rhoi yng nghefn eich car a byrddau rhwyfo.

"Yn ogystal, bydd digon o adloniant gyda phencampwr jetsgïo’r byd ac arddangosiadau tonfyrddio.

Er mwyn rhoi trwy dudalen Just Giving Irfon Williams, ewch i www.justgiving.com/teamirfon ac i arwyddo deiseb Hawl i Fyw, ewch i www.ipetitions.com/petition/hawl-i-fywfighting-chance  

I gael rhagor o wybodaeth a thocynnau ar gyfer Sioe Gychod Cymru Gyfan, ewch i www.allwalesboatshow.com

Llun: Irfon Williams a Davina Carey-Evans

Rhannu |