Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ebrill 2015

Buddsoddiad ychwanegol i helpu cyn-filwyr yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £100,000 yn ychwanegol yn cael ei fuddsoddi i helpu cyn-filwyr ac aelodau presennol y lluoedd arfog yng Nghymru bob blwyddyn.

Bydd y cyllid newydd yn mynd at wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr, sef unig wasanaeth penodedig cenedlaethol y DU, i helpu gydag anghenion emosiynol a meddyliol cyn-aelodau'r lluoedd arfog drwy ddarparu therapyddion penodedig i gyn-filwyr ym mhob bwrdd iechyd.

Cafodd y gwasanaeth ei sefydlu yn 2010 dan ei enw gwreiddiol, Gwasanaeth Iechyd a Lles Cyn-filwyr Cymru, ac mae wedi ehangu i gynnwys Cymru gyfan. Y llynedd, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £485,000 i helpu i’w ddatblygu.
 
Mae'r £100,000 o gyllid rheolaidd a gyhoeddwyd heddiw yn ychwanegol at £100,000 arall a gyhoeddwyd y llynedd. Bydd y buddsoddiad newydd yn sicrhau bod cyn-filwyr yn cael mynediad at wasanaethau asesu a thriniaeth yn gynt.
 
Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 1,100 o gyn-filwyr wedi derbyn gofal gan wasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr ers iddo gael ei sefydlu yn 2010.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething: “Rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi aelodau'r lluoedd arfog a chyn-filwyr yng Nghymru. Heddiw, rydyn ni'n cyhoeddi y bydd gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn cael £100,000 yn ychwanegol bob blwyddyn i sicrhau bod y gwelliannau mewn amseroedd mynediad a sicrhawyd gennym y llynedd, yn cael eu cynnal.
 
“Mae gwasanaeth GIG Cymru i Gyn-filwyr yn unigryw - y cyntaf o'i fath yn y DU – ac mae’n cynnig gofal arbenigol a help ar gyfer anghenion penodol cyn-filwyr.
 
“Rydyn ni'n disgwyl y bydd y galw am y gwasanaeth yn cynyddu yn y blynyddoedd nesaf ymhlith y rheini sydd wedi gweld gwrthdaro yn ddiweddar, ac o ganlyniad i ddiswyddiadau yn y fyddin.”
 
Comisiynwyd Iechyd Cyhoeddus Cymru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, i gynnal adolygiad o GIG Cymru i Gyn-filwyr, a oedd yn cynnwys dadansoddiad o'r galw presennol am wasanaethau, a'r galw am wasanaethau yn y dyfodol ac ymgynghoriad â darparwyr a defnyddwyr am y ffordd y mae'r gwasanaeth yn gweithredu, a sut y gallai gael ei wella ymhellach.
 
Yn yr adolygiad:

* Roedd cyn-filwyr sydd wedi defnyddio'r gwasanaeth yn fodlon iawn â'r gwasanaeth a'r driniaeth roeddent wedi’u derbyn;

* Roedd pawb yn dweud eu bod yn fodlon gyda'r therapyddion a dywedodd mwyafrif helaeth o'r cyn-filwyr a holwyd eu bod yn hapus gyda'r amser aros;
Nifer isel o fenywod a phobl sydd wedi gadael y lluoedd arfog yn gynnar sydd wedi defnyddio GIG Cymru i Gyn-filwyr hyd yma. Mae'r adolygiad hefyd yn dangos bod anghenion cyn-filwyr yng ngharchardai Cymru o bosibl heb eu diwallu.

 I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch swyddfa'r wasg, Llywodraeth Cymru, ar 029 2089 8012.

Rhannu |