Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ebrill 2015

Galw cynhadledd ar lo brig

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Carl Sargeant ddoe y byddai’n galw cynhadledd i ddatblygu bargen gwir Gymreig ar gyfer cloddio glo brig.
 
Dywedodd fod angen gweithio â rhanddeiliaid i benderfynu ar ffordd ymlaen a fyddai’n rhoi ystyriaeth i anghenion cymunedau lleol a’r angen i ddiogelu tirweddau Cymru a’r swyddi y mae’r diwydiant yn eu darparu.
 
Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai’n cynnal adolygiad manwl o’r nodyn cynghori technegol ar Fwynau (MTAN2), yn benodol mewn cysylltiad â chasglu a rheoli bondiau.
 
Meddai: “Mae’r problemau mwyaf difrifol sy’n corddi teimladau fwyaf yn ganlyniad uniongyrchol i’r ffaith i Lywodraeth ddiwethaf y DU breifateiddio’r diwydiant glo heb ystyried yn ddigonol yr effeithiau ar ein cymunedau yn y dyfodol.
 
“Mae’r polisi annoeth hwn a’i ddibyniaeth ar y farchnad wedi esgor ar ansicrwydd a difrod amgylcheddol yn ein cymunedau, ac roedd y bondiau ariannol i adfer safleoedd yn warthus o annigonol mewn sawl achos.” 
 
Dywedodd y Gweinidog mai un o brif ystyriaethau’r adolygiad fydd sicrhau, wrth gynnal gwaith glo brig, na fydd y rhwymedigaeth ariannol ar unrhyw adeg yn fwy na gwerth y bond gan sicrhau na fydd diffyg o ran y costau adfer.
 
Dywedodd Carl Sargeant: “Rwyf wedi cwrdd â’r Awdurdod Glo sydd eisoes yn cefnogi tri awdurdod cynllunio lleol.  Mae eu help wedi arwain at gynyddu gwerth bondiau.  Byddaf yn gofyn iddynt baratoi canllawiau manylach ynghylch asesu gwerth y gwaith adfer, y risgiau a’r angen am fondiau ar safleoedd gwaith.”
 
Ychwanegodd y Gweinidog y byddai’n gweithredu er budd y cyhoedd, y rheini yr effeithir arnynt gan y diwydiant glo yn ogystal â’r trethdalwr, a galwodd ar Lywodraeth y DU i beidio ag osgoi ei chyfrifoldebau yn hyn o beth.
 
“Mae diffygion y model busnes a arweiniodd at breifateiddio bellach yn glir – yn enwedig nawr bod y farchnad am lo wedi dirywio,” meddai. 
 

Rhannu |