Mwy o Newyddion

RSS Icon
23 Ebrill 2015

Stori Teddy – Bywyd byr arwr

Roedd genedigaeth gefeilliaid brawdol, Teddy a Noah, ar 22 Ebrill 2014, yn un dorcalonnus ond eto llawn gobaith i Jess Evans a Mike Houlston o Gaerdydd.

Ganwyd Teddy gyda chyflwr prin ond angheuol - anenseffali - ond roedd ei rieni yn benderfynol na fyddai ei fywyd byr mewn ofer.

Unwaith y cafodd y diagnosis ei gadarnhau yn ystod beichiogrwydd, fe wnaeth y rhieni trafod a phenderfynu, os yn bosibl, i roi ei organau.

Fe lwyddodd y teulu i dreulio amser gwerthfawr gydag ef cyn iddo farw a daeth Teddy y rhoddwr ieuengaf, ac yn un o ond 10 o dan 18 oed, yng Nghymru dros y degawd diwethaf. 

Gan fod ei gefell Noah yn dathlu ei ben-blwydd cyntaf mae’r teulu am ddefnyddio'r pen-blwydd i nodi'r achlysur pan ddaeth ei frawd Teddy yn arwr. Cafodd ei arennau eu trawsblannu i helpu i achub bywyd person arall. 

Dywedodd Jess, 28: "Mae gwybod bod rhan o'ch anwylyd yn parhau o fewn rhywun arall yn gysur.

"Os yw hyn yn stopio unrhyw berson arall rhag mynd drwy'r un peth, yna gall hyn ond fod yn dda.

"Roedd gan fywyd Teddy rôl bwysig iawn i'w chwarae. Ond oni bai eich bod wedi bod drwy'r un peth, neu yn adnabod rhywun a effeithir, mae'n anodd deall pa mor bwysig yw rhoi organau.

"Roedd fy mam yn awyddus iawn i ddysgu ei phlant ei hun am bwysigrwydd rhoi organau ac rwy'n cofio iddi siarad â mi am y peth pan oeddwn yn ifanc.

"Hyd yn oed pan oeddwn yn yr ysgol gynradd oeddwn i eisiau bod ar y gofrestr rhoddwyr organau ac yn annog ffrindiau, teulu a chariadon i gofrestru! 

"Yn dilyn diagnosis Tedi cawsom ychydig o amser i gynefino beth allai ddigwydd, felly penderfynasom yn gynnar fel teulu y byddem yn dymuno mynd ymlaen â'r beichiogrwydd a rhoi ei organau os oedd hyn yn bosibl." 

Ychwanegodd Mike, 30: "Rydym am i stori Teddy ysbrydoli eraill a helpu i dorri unrhyw dabŵs sydd gan bobl ynghylch rhoi organau.

"Nid oedd rhoi organau yn amlwg yn fy mywyd wrth dyfu i fyny ac er roeddwn yn hapus i gefnogi nid oeddwn wedi gwneud dim byd am y peth. Rwy'n siŵr bod llawer mwy o ddynion fel fi sy'n meddwl yr un peth! 

"Rwyf am ledaenu'r neges cymaint â phosibl am sut y gall rhoi organau achub bywydau, ond y dylem i gyd siarad â'n gilydd am ein dymuniadau. Heb y drafodaeth, mae'n sgwrs anodd iawn pan ddaw allan o'r glas.

"Yn syml, dylech ofyn i chi'ch hun y cwestiwn 'A fyddech chi'n cymryd organ os oeddech ei angen?' Y gwirionedd yw y byddai pawb yn gwneud hynny, felly rydym yn gobeithio wnaiff yr hyn a wnaeth Teddy addysgu pobl a’u hannog i ddechrau siarad."

Rhannu |