Mwy o Newyddion
Hau hadau blodau gwyllt ar draws Abertawe
Mae cannoedd ar filoedd o hadau blodau gwyllt bellach yn cael eu hau ar draws y ddinas.
Mae adran parciau Cyngor Abertawe wedi dechrau hau amrywiaeth o gymysgeddau hadau mewn 125 o leoliadau wrth i'r cyfnod cyn yr haf agosáu yn heulwen hyfryd y gwanwyn.
Mae mannau lle mae hadau blodau gwyllt eisoes wedi'u hau yn cynnwys ardal laswelltog ger Neuadd y Ddinas, Heol Normandy ger Stadiwm Liberty a'r brif ffordd rhwng Gorseinon a Phontarddulais. Mae hadau blodau gwyllt hefyd wedi'u hau ar ran o lain ganol Ffordd Fabian.
Rydym yn hau nawr i sicrhau y bydd y blodau gwyllt yn blodeuo ar draws y ddinas o ganol mis Mehefin.
Mae lleoliadau eraill a fydd yn elwa dros yr haf yn cynnwys ffordd gyfnewid Dyfaty, cylchfan Parc Sgeti a Heol Pentreguinea yn St Thomas. Mae 'rainbow annual', 'colour bouquets orange' a 'carpet red and gold' ymysg y cymysgedd o hadau a ddefnyddir.
Mae cynllun y blodau gwyllt yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gyngor Abertawe, cynghorau cymunedol ac aelodau wardiau lleol trwy'u lwfansau amgylcheddol.
Meddai'r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les a Dinasoedd Iach, "Mae blodau gwyllt yr haf wedi bod yn hynod boblogaidd ar draws Abertawe ers eu cyflwyno ychydig flynyddoedd yn ôl. Nid yn unig maent wedi derbyn clod gan filoedd o bobl leol ac ymwelwyr ledled y DU, ond hefyd gan dwristiaid rhyngwladol hefyd. Rydym hyd yn oed wedi cael ymwelwyr o'r Swistir yn sôn am hyfrydwch y blodau gwyllt - ac maen nhw'n gwybod llawer am arddangosfeydd blodau yno.
"Mae ein staff am orffen plannu'r hadau blodau gwyllt yn yr holl leoliadau penodol erbyn diwedd yr wythnos nesaf. Mae mannau ar hyd prif ffyrdd ac mewn parciau, mynwentydd ac ardaloedd hamdden ar draws y ddinas ymysg y rhai a fydd yn elwa wrth i ni geisio rhoi hwb i ysbryd modurwyr, cerddwyr, preswylwyr ac ymwelwyr dros yr haf.
"Mae ein harfordir gwych yn ennill gwobrau'n rheolaidd, ond bydd blodau gwyllt yn blodeuo unwaith eto'n ychwanegu hyd yn oed mwy o liw at leoliad sydd eisoes yn enwog am ei brydferthwch."
Mae 'summery picking', 'pastel mix and flowers' a 'honey and butterfly' ymysg y cymysgedd o hadau eraill sy'n cael eu defnyddio. Mae lleoliadau eraill a fydd yn elwa ar flodau gwyllt dros yr haf yn cynnwys tir gyferbyn â chylchfan Ynysforgan, Pwll Scott yng Ngellifedw a Rhodfa Dyfed yn Townhill.